Dadansoddi

Slwtsh gwraig tŷ

Pam rydyn ni’n aros?

Eluned Gramich

Amser darllen: 15 munud

05·08·2020

Mer Maid / Hav Frue, 1990 gan yr artist o Ddenmarc, Kirsten Justesen

 

‘Most of the labour in the world is done by women: that is a fact’.
Adrienne Rich, Motherhood as Experience and Institution (1976) 

‘If we adventure more than one day / Who will do the loving while we’re away?’
Gillian Clarke, ‘Letter from a far country’

Yn ystod y misoedd diwethaf, roedd gen i lawer o amser ... Na, dydy hynny ddim yn wir. Doedd yna ddim digon o amser, a bod yn onest. Ond, yn ystod y misoedd hyn, doedd yna ddim gwaith i mi ei wneud, heblaw am edrych ar ôl fy merch. Felly roedd yna amser ... Na. Dim amser segur pur i wneud beth bynnag roeddwn yn ei ddymuno. Amser rhyfedd, newydd, anfoddhaol ydoedd. Amser wedi’i atal. Cyfnod heb ddigon o gyfle i ysgrifennu, gweithio, darllen. Ond roedd yna lawer o amser i bryderu hefyd, i feddwl yn obsesiynol, a’r un pethau yn mynd drwy fy mhen dro ar ôl tro, yn y nos, yn y prynhawniau hir, anodd. Roeddwn yn ymwybodol o’m sefyllfa mewn ffyrdd newydd na fyddwn wedi sylwi arnynt pe bai bywyd wedi parhau yn ôl ei arfer. Felly, dyma ysgrif am y cyfnod clo a mamolaeth, y cyfnod clo a’n synnwyr amser. Mae yna rywbeth cyfarwydd am y cyfnod clo, y gorchymyn llym: Aros Gartref. Cyfarwydd, rwy’n meddwl, i fenywod. Tybed ai profiad ‘benywaidd’, yn y bôn, yw’r cyfnod clo? Cyfnod a nodweddir gan ddygnwch, gan ofal. Cyfnod aros. Mae menywod, yn enwedig, yn gwybod sut i aros. Fel yr ysgrifenna Gillian Clarke yn y gerdd ‘Letter from a far country’: ‘The minstrel boy to the war has gone. / But the girl stays. To mind things. / She must keep. And wait. And pass time.’ 

Mamolaeth

Motherhood is a career in conformity from which no amount of subterfuge can liberate the soul without violence. Rachel Cusk, A Life’s Work (2001) 

As mothers, women have been idealized and also exploited.
Adrienne Rich, Motherhood as Experience and Institution (1976)

Er bod fy merch dri mis oed a finnau’n agosach at ein gilydd na neb arall yn y byd – roeddem yn un person wedi’r cyfan – rydym yn gweld y byd yn hollol wahanol. Byddwn yn mynd cyn belled â dweud bod ein golwg ar y byd a’i bethau, ar hyn o bryd, yn gwbl wrthgyferbyniol. Bob dydd mae’r byd yn ildio’i gyfrinachau iddi, ac mae dirgelion newydd yn cymryd eu lle. Bob dydd mae’r byd yn newid, yn ehangu, yn dod yn fwy hygyrch iddi ac felly’n fwy diddorol. Mae wyneb ei thad fel y Ddaear iddi, hyd y soffa yw ei galaeth, yr ystafell fyw yw’r gofod. Wrth i’w hegni hi fyrlymu i’r wyneb, gan dorri swigen y newyddanedig yn yfflon, mae fy egni i’n gwrthdroi tuag i mewn. Tra bod ei byd hi’n ddiderfyn, mae fy myd i’n culhau yn fyd mewnol, domestig, cyfyng. Wrth iddi ddod o hyd i’w llais, yn parablu a sïo a siarad â ni yn ei ffordd ei hun, rwy’n tyfu’n fwyfwy distaw, fy ngeiriau’n troi’n feddyliau hir, anniben. Aros gartref, dywedasant, ac fe arhosais i yn fy fflat ar yr ail lawr am wythnosau. Aeth y dyddiau heibio wrth imi gamu lan a lawr y fflat gyda fy mabi yn fy mreichiau. Yn sydyn, roedd yr amserlen a oedd wedi bod yn gymaint o gymorth yn teimlo’n ailadroddus, fel gwasgod gaeth. Bwydo, newid cewyn, chwarae gyda’r un teganau, cysgu, bwydo, chwarae, cysgu, bwydo, chwarae, cysgu, bwydo, chwarae, cysgu. Golchais yr un poteli drosodd a throsodd. Cyn pob cyntun, cerddais hyd a lled y fflat, yn canu’r un hwiangerddi, â’r waliau’n dynn o f’amgylch.

Nid ar y cyfnod clo a’i arwyddair – Aros Gartref – y mae’r bai yn llwyr am fy nheimladau clawstroffobig. Fersiwn dwys o’r hyn a fyddai’n digwydd beth bynnag yw’r cyfnod clo. Mae’n datguddio sefyllfa gofal a llafur mamau: ‘the maternal body signifies as a permanently labouring body,’ fel y dywed Lisa Baraitser yn ei chyfrol ddiweddaraf, Enduring Time (2020). Ers i mi fynd i’r ysbyty ym mis Rhagfyr, rwyf wedi dod i adnabod y ‘llafur’ hwn a rhywfaint o’r hyn y mae’n ei olygu. Daeth yn amlwg bod maint fy merch – a oedd yn cuddio tu mewn i mi – yn rhy fach, ac felly penderfynodd f’ymgynghorydd ein hanfon i’r ysbyty, lle’r arhoson ni am bythefnos, cyn y toriad Cesaraidd. Pythefnos ar y ward, yn edrych mas ar y tywydd gaeafol, diflas, yn cerdded o’r gwely i’r dderbynfa ac yn ôl eto ... Dyma oedd dechrau fy siwrnai mamolaeth – ‘siwrnai’ nad oedd yn cynnwys symudiad na dilyniant, wedi’i diffinio gan bedair wal, gan fewnoliaeth. Wedyn, ar y ward ôl-enedigol, roedd pob menyw yn cau’r llenni o gwmpas ei gwely, a ninnau yn y cornel, mewn gulag o lenni, heb le hyd yn oed i gyrraedd ochr arall y gwely. Yna, adref yn Aberystwyth, fe arhoson ni yn y fflat am ddeng niwrnod, mewn byd o boen, di-gwsg.

Felly, pan ddechreuodd y cyfnod clo ym mis Mawrth, nid oedd yn brofiad hollol newydd. Roeddwn yn gyfarwydd yn barod â’r ‘hunanynysu’ yma: roedd y cyfnod clo fel estyniad dwys o famolaeth newyddanedig. Yn wir, dydy’r cyfnod hwn ddim mor wahanol â hynny i’r ‘gwelyfod’ ôl-partwm. Petaswn i wedi dilyn cyfarwyddyd Penelope Leach yn ei llyfr adnabyddus Your Baby and Child (1988), sydd yn ymgorffori damcaniaeth ymlyniad John Bowlby, fe fyddwn hyd yn oed wedi gwrthod cymorth fy ngŵr, er mwyn creu caer gref o gariad mam na allai neb ei threiddio. Ond ar ôl i’r cyfnod clo ddechrau, roedd yn ddiddorol gweld – wrth imi aros gartref yn fy nghyfnod mamolaeth arbennig o ddwys a mewnblyg – fod mamau eraill nawr yn dychwelyd i’r cyflwr hwn o wneud gwaith tŷ a gofalu am blant rownd y ril. Roedd hi fel petai’r byd gwaith y tu allan i’r cartref ac ymrwymiadau di-ddomestig wedi bod yn rhyw fath o rith dros dro, ac erbyn hyn roedd menywod â phlant yn ôl tu mewn, o flaen y sinc. Wedi’r cyfan, yn unol â’r hyn a ddywedir wrthym gan gymdeithas dro ar ôl tro: mae angen mamau ar blant.


Stranger 17 gan Shizuka Yokomizo


Fel mae Helen McCarthy yn trafod yn Dual Lives: A History of Working Mothers (2020), roedd theorïau John Bowlby (‘Bowlbyism’) yn llwyddiannus a phoblogaidd – maent yn parhau i ddylanwadu ar ein syniadaeth heddiw – oherwydd eu bod yn ffitio’n daclus o fewn y model patriarchaidd: model lle roedd yn rhaid i fenywod aros gartref i edrych ar ôl eu plant rhag ofn i ddifrod seicolegol ofnadwy ac anghildroadwy ddigwydd pe bai’r fam yn gadael ei phlentyn. Roedd y seicoleg newydd hon yn cefnogi trefn geidwadol Fictoraidd o rannu llafur yn ôl rhyw, trefn sydd yn seiliedig ar fenywod fel mamau. Yn ei llyfr pwysig Housewife (1974), mae’r cymdeithasegydd Ann Oakley yn crynhoi’r sefyllfa fel hyn: ‘Along with the myth of the division of labour by sex, the myth of motherhood is a major source of women’s oppression. Both myths act to confirm women’s domesticity: their lasting psychological identification with the domestic world.’ Er bod ffeministiaid fel Oakley wedi dadorchuddio’r ideoleg hon – y ‘chwedlau’ am famolaeth, er enghraifft – mae’r cyfnod clo wedi dangos bod y chwedlau yn dal yn gryf hyd heddiw. Yn wir, ar ôl darllen gwaith Ann Oakley ac Adrienne Rich, rwy’n synnu pa mor berthnasol yw’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud, hyd yn oed heddiw. Mae’n amlwg nad yw gwaith mamau wedi newid rhyw lawer ers 1974. Er bod tadau yn cyfrannu mwy at ofal plant nag yr oeddent, mae anghydraddoldeb sylweddol a pharhaol rhwng mamau a thadau o hyd. Dangosodd astudiaeth gan yr Institute for Fiscal Studies a Choleg Prifysgol Llundain (UCL) fod mamau mewn cartrefi dau riant yn Lloegr yn gwneud traean yn unig o’r oriau gwaith di-dor, cyflogedig y mae tadau yn eu gwneud yn ystod y cyfnod clo. Mewn geiriau eraill, atelir mamau gan eu plant rhag gwneud eu gwaith i raddau llawer mwy sylweddol na thadau.

Er bod y drefn batriarchaidd mewn cenhedloedd diwydiannol yn gosod ac yn cyfyngu menywod oddi mewn i’r maes domestig, mae’r hanes a ddadlennir gan Helen McCarthy am famau sydd yn gweithio am gyflog yn brawf bod llawer o fenywod wedi ceisio gwrthsefyll hyn. Nid yw’r ddelfryd o’r ‘angel yn y tŷ’ Fictoraidd hyd yn oed yn cyfateb i’r realiti cymhleth hanesyddol; delfryd oedd hon a oedd yn seiliedig ar ddosbarth yn gymaint â rhyw. Mewn gwirionedd, roedd y ddelfryd o famolaeth ddomestig (ddi-dâl) yn ail hanner y 19g yn ymateb i’r nifer fawr o famau a ddewisodd weithio mewn ffatrïoedd. Casglodd McCarthy ynghyd rai o leisiau’r mamau (o’r dosbarth gweithiol, fel arfer) a oedd yn gweithio am dâl yn y cyfnod hwn, gan dynnu sylw at y ffaith nad anghenraid annymunol oherwydd tlodi oedd gwaith am dâl i’r mamau hyn; i’r gwrthwyneb, roedd yn rhywbeth yr oeddent yn ei ddymuno, yn awyddus i’w wneud. ‘It is such a nice rest for me to go out to work,’ meddai un fam oedd yn gweithio mewn crochendy yn swydd Stafford, ac arswyd un weithwraig ffatri o ogledd Lloegr oedd y syniad o aros ‘at ’ome all dye [to] mind the blessed byby – it ’ud give me the bloomin’ ’ump!’ Roedd yn well gan y menywod hyn dalu cryn dipyn o’u cyflog – os nad y rhan fwyaf o’u cyflogau – tuag at gost cyflogi gwarchodwyr plant er mwyn parhau i weithio yn y ffatrïoedd.

O’r 19g hyd heddiw, mae hanes McCarthy yn dangos bod mamau o bob dosbarth a chefndir ethnig yn y Deyrnas Gyfunol wedi cael eu diffinio a’u ffurfio gan waith am dâl tu allan i’r cartref. Roedd y ddelfryd o ‘wraig tŷ’r 50au’ yn mynd law yn llaw â niferoedd cynyddol o ferched oedd yn mynd yn ôl i waith am dâl ar ôl cael plant. Yn wir, yn y cyfnod rhwng y 50au a’r 70au, arferai meddygon annog llawer o wragedd tŷ anhapus i fynd allan i weithio er mwyn gwella’u hiselder ysbryd. Er bod llawer o famau yn gweithio, mater iddyn nhw oedd sut i gydbwyso gwaith am dâl â gofal plant: p’un ai drwy rannu eu bywydau’n ddau, er enghraifft, fel mam fyddai’n aros gartref yn gyntaf ac wedyn yn gweithio tu fas i’r cartref pan fyddai’r plant yn hŷn, neu’n jyglo gwaith sydd yn ei galluogi i barhau â gofal plant (gwaith hyblyg, rhan-amser, megis dysgu mewn ysgolion neu gweithio ar ei liwt ei hun). Mae’r ffaith fod y baich hwn o gysoni gofal plant â’u bywydau proffesiynol yn dal i bwyso ar ysgwyddau menywod yn bennaf yn dyst i ffaith arall, sef nad yw llywodraeth y Deyrnas Gyfunol – hyd yn oed o dan lywodraeth Lafur – erioed wedi deddfu o blaid newid radical a fyddai’n galluogi pob mam i gael mynediad cyfartal i waith boddhaol am dâl. Rydym yn parhau i fyw mewn cyfundrefn sydd yn gweld gofal plant fel swyddogaeth unigryw menywod. Yng ngeiriau McCarthy: ‘Without banishing the myth of womanly duty, and without forcing men to take their equal share in the family and household roles, wage-earning would continue to saddle mothers with a double burden rather than offer real liberation.’ Ond rhan o’r rheswm pam fod mamolaeth a gwaith wedi bod yn fater anodd i gymdeithasau ôl-ddiwydiannol modern yw’r ffaith bod mamau sy’n gweithio yn cymhlethu ac yn herio’r union gysyniad hwn o ‘waith’.

Stranger 8 gan Shizuka Yokomizo
 

Gwaith a gwaith tŷ

That curious cultural phenomenon of ‘the working mother’ – a term meaning the mother who gets paid for employment outside the home, as though the work women do inside it without pay simply doesn’t count. Which, of course, it doesn’t; it didn’t, in the early 1970s […] and it doesn’t now, in 2018. A Sociology of Housework (1974), New Introduction by Ann Oakley (2018)

Ddoe, fe gefais sgwrs â ffrind sy’n disgwyl babi. Siaradodd hi am yr amser y bydd yn ei gael i ddarllen ac ysgrifennu yn ystod chwe mis ei chyfnod mamolaeth; soniodd am ei gŵr, fyddai’n cael pythefnos o absenoldeb tadolaeth a phythefnos ychwanegol o wyliau. Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr at gael egwyl fach o’i gwaith yn yr ysbyty, meddai, i beintio’r tŷ. Eisteddais ddau fetr i ffwrdd oddi wrthi ac ni ddywedais fawr ddim am ei dyfodol agos, profiad yr oeddwn yn ei adnabod mor dda. Wel, meddwn, efallai ddim ar y dechrau. Fydd yna ddim peintio’r tŷ yn ystod y pythefnos cyntaf. Efallai na fydd gyda chi gymaint o amser ... O ie, ar y dechrau, cytunodd hi, ond wedyn, pan fydd y babi yn cysgu drwy’r dydd ... Aeth ymlaen i siarad am ffrind i ni a oedd wedi ymweld â mi yn ystod y mis cyntaf ar ôl genedigaeth fy merch. Dywedodd e dy fod ti’n edrych mor dawel dy feddwl, mor ddi-straen, meddai. Yn wir? dywedais. ‘Dyna ryfedd.’

Y broblem yw nad oes unrhyw ffordd o ddisgrifio bywyd ‘gwraig tŷ’ – oherwydd dyna beth ydych chi mewn cyfnod mamolaeth, hyd yn oed os ydych chi’n cymryd cyn lleied o amser â phosib i wneud y gwaith hwnnw. Sylweddolais fod fy mywyd, o’r tu allan, yn ymddangos yn dawel iawn. Ydy fy mywyd yn dawel? Ydy. Nac ydy. Mae fy nyddiau’n pasio mewn cylch o lanhau, coginio, gofalu am y babi, a phryderu. Ydw i’n brysur? A yw hynny’n waith go iawn? Oes hawl gyda mi i gwyno, er bod fy mywyd yn freintiedig? O dduw! Rho’r gorau iddi, rwy’n dweud wrthyf fy hun, jyst gwaith tŷ yw e yn y diwedd. Rydyn ni i gyd yn cecru am waith tŷ gyda’n cyd-letywyr, ein partneriaid ... Mae’n ddigon diflas dadlau am waith tŷ heb ei wneud yn fater gwleidyddol. Er mai dyna ydyw.

Mewn cyfweliadau â gwragedd tŷ ar gyfer ei doethuriaeth, clywodd Oakley y menywod yn dweud yn aml eu bod yn hoffi bod yn ‘wraig tŷ’ oherwydd gallent ‘fod yn fòs arnaf fy hunan’. Ond, yn y brawddegau nesaf, daeth yn amlwg nad oedd yr annibyniaeth ymddangosiadol yn gwneud llawer o wahaniaeth. Mae’n rhaid gwneud y gwaith tŷ beth bynnag. ‘You can’t not do it,’ meddai un a gyfwelodd. Pe bawn i’n rhoi’r gorau i sterileiddio poteli fy merch, rhoi’r gorau i newid ei chewyn, rhoi’r gorau i lanhau’r chwŷd llaeth sy’n staenio pob rhan o’r fflat, yna byddai rhywbeth gwirioneddol o’i le arna i. Felly, mae fy nyddiau’n llawn gweithredoedd sy’n angenrheidiol ar gyfer iechyd a lles fy nheulu bach, ond eto nid ydynt yn cael eu hystyried yn arbennig o nodedig na phwysig. Maen nhw’n weithredoedd tawel. Maen nhw’n mynd rhagddynt heb i ymwelwyr sylwi, yn enwedig, fel mae’n digwydd, y rhai gwrywaidd.

Yn Enduring Time (2020), mae Lisa Baraitser yn dadansoddi gwaith yr artist Mierle Laderman Ukeles. Roedd ei maniffesto Maintenance Art (1969), a ysgrifennwyd yn dilyn genedigaeth ei phlentyn cyntaf, yn hyrwyddo gwaith anweledig: y gwaith sydd yn cadw ein cymdeithas i fynd. Golchi llestri, smwddio, coginio; perfformiodd y gweithredoedd hyn fel artist, yn ymwybodol o ystyr dyfnach. Ar ôl darllen am hyn, mi wnes i sefyll yn y gegin, gan ddirnad fy hun hefyd fel artist, yn perfformio defodau domestig. Roedd y teimlad yn fy nghyffroi am eiliad cyn i’r peiriant golchi orffen troi. Ond nid dathliad o’r math yma o waith cynnal a chadw oedd maniffesto Ukeles. Yn hytrach, roedd yn weithred syml o sylwi, gan ei wneud yn weladwy. Disgrifiodd Ukeles y gwaith fel hyn: ‘Maintenance is a drag: it takes all the fucking time’ (1969). Yn ‘Letter from a far country’ gan Gillian Clarke hefyd, mae yna densiwn rhwng dathlu gwaith tŷ a chydnabod ei natur anweledig, di-baid, sydd yn cyfyngu. Fel y tonnau sydd yn torri o flaen ein cartref, nid yw gwaith menywod byth yn dod i ben. Fel tonnau, mae’r gwaith yn cael ei ystyried yn rhan o natur y byd ac, fel y môr, mae’n gallu cynnwys math o harddwch hefyd: ‘The waves are folded meticulously, / perfectly white. Then they are tumbled / and must come to be folded again.’ 

Yn ei haraith ar gyfer Gŵyl y Gelli eleni, dywedodd y gyfreithwraig ryngwladol Miriam González Durántez, sy’n arbenigo ar fasnach ryngwladol, fod y pandemig wedi rhoi ein cymdeithas o dan ‘chwydd-wydr enfawr’ lle gellir gweld llafur menywod yn glir. Mae llafur anweledig y tŷ – glanhau, coginio, siopa, gofal plant – wedi dod i’r amlwg ar ôl i’r ysgolion gau ac i gynifer o bobl droi at weithio gartref. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae menywod yn gwneud 2.6 gwaith yn fwy o lafur domestig di-dâl na dynion. Mewn gwlad ddatblygedig fel y Deyrnas Gyfunol, mae menywod yn gwneud 4 awr a 24 munud o dasgau gofal domestig dyddiol, ar gyfartaledd; 1428 awr y flwyddyn o waith di-dâl. Wrth gwrs, nid oes bil yn cael ei anfon am y gwaith. Mae’r syniad yn chwerthinllyd. Nid oes bil i’w dalu, oherwydd nid yw’n waith go iawn. Mae’r geiriau ‘gwaith tŷ’ yn dadorchuddio’r gwrthddywediadau cymhleth tu ôl i gysyniad sy’n ymddangos yn syml. Mae’n waith sydd, yr un pryd, yn ddi-waith. Nid yw’n gynhyrchiol yn economaidd; yn lle hynny, mae’n galluogi pobl eraill (dynion yn hanesyddol neu, yn fwy diweddar, menywod sy’n ennill cyflog uchel) i fod yn gynhyrchiol yn economaidd. Yn 2014, amcangyfrifwyd bod gwaith tŷ yn y Deyrnas Gyfunol yn werth £1 triliwn, sy’n cymharu â chyfanswm y Cynnyrch Gwladol Crynswth (GNP) o £1.8 triliwn yn yr un flwyddyn (Office of National Statistics, Household Satellite Account: 2005 to 2014, 2016). Hynny yw, mae cyfrif gwaith tŷ o fewn fframwaith cyfalafol – dychmygu talu amdano – yn nonsens economaidd. Mae gwaith tŷ yn bodoli y tu allan i fframwaith cyfalafol a’r un pryd yn hanfodol ar ei gyfer, ac eto mae’n waith statws isel. Efallai mai’r ffaith fod y gwaith hwn yn cael ei wneud gan y rhai sydd â statws isel yn ein cymdeithas, sef menywod, sydd i gyfrif am hynny, yn enwedig menywod o’r De Byd-eang sy’n teithio i wledydd datblygedig er mwyn gofalu am dai a phlant pobl eraill. 

Beth am waith menywod tu fas i’r cartref? Y gwaith ‘go iawn’, a wneir am dâl? Yn y cyfnod clo, mae pwysigrwydd pobl sy’n gwneud gwaith cynnal a chadw wedi dod i’r amlwg: menywod sy’n gwneud gwaith tŷ, staff glanhau, athrawon, a chynorthwywyr gofal iechyd. Mae gwaith hanfodol bron bob amser yn waith cynnal a chadw. Er enghraifft, gwaith yn y sector cyhoeddus: mae 77% o weithwyr y GIG yn fenywod; 80% o weithwyr gofal cym-deithasol ar gyfer oedolion yn fenywod; 82% o weithwyr addysg yn fenywod (Cymdeithas Fawcett, 2012). Mae menywod yn fwy tebygol o weithio mewn gwaith gofal neu gael gyrfa sy’n gysylltiedig â gofal, ac felly maent yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â Covid-19 o ddydd i ddydd, er eu bod yn llai tebygol o farw o’r afiechyd. Ond mae’r sefyllfa yn waeth byth os ydy’r weithwraig yn fenyw o liw, yn enwedig menyw ddu, sydd â risg llawer uwch o gymhlethdodau a marwolaeth. Ac eto, fel y nodais eisoes, yn hanesyddol ni thalwyd yn ddigonol am y gwaith hwn yn y sector cyhoeddus. Cyflog yw ffordd cymdeithas ddiwydiannol o fesur gwerth; felly, gallwn gasglu bod gwerth nyrsys, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon yn dal i fod yn anfaddeuol o isel o’i gymharu â rheolwyr corfforaethol a gweithwyr yn y sector ariannol. Mae astudiaethau wedi dangos bod menywod yn fwy tebygol o golli eu swyddi, mynd ar ffyrlo, a rhoi’r gorau i’w gwaith er mwyn gofalu am blant. Mae’r llun yn arswydus, mewn gwirionedd, i fenywod – p’un a oes ganddyn nhw blant ai peidio. Pam? Pam fod menywod yn aberthu eu hamser yn awtomatig, a’u cyflog? Nid cwestiwn gwleidyddol yn unig yw cwestiynau ynghylch parchu gwaith menywod, tu mewn a thu allan i’r tŷ. Mae hefyd yn gwestiwn moesegol sy’n gysylltiedig â’n trefn gymdeithasol, ein gwerthoedd, a’n ffordd o fyw.

Amser gohiriedig 

My suggestion is that we engage instead with ‘unbecoming’ time – time that is lived as radically immoveable, experiences of time that are not just slow, sluggish, or even interminable […] but are radically suspended, ‘a great circle with no rim’. Lisa Baraitser, Enduring Time (2020)

My experience of the regularity of hours and days and seasons has altered so dramatically over the past few weeks that time has become a sort of undifferentiated mass ordered only by the exigencies of the baby’s sleeping and waking, her crying and equally baffling contentment.
Rachel Cusk, A Life’s Work (2001)

Mae fy synnwyr o amser wedi newid. Ar ddechrau fy nghyfnod mamolaeth, newidiodd fy synnwyr o amser i gyfateb i’r hyn y mae Rachel Cusk yn ei ddisgrifio fel: ‘the housewifely slurry of everything that is both too late and too early, of madness and morning television.’ Efallai y byddai’r ‘slwtsh’ hwn wedi lleihau yn y pen draw, ond mae’r cyfnod clo wedi ei estyn ymhellach, fel bod y dyddiau o fy mlaen yn wag o dirnodau, fel paith, fel gwastadedd na ellir ei groesi, gan adleisio Cusk. 

Fel y soniais o’r blaen, mae’n anodd, yn wir yn annymunol, esgus bod y cyfnod clo wedi bod yn brofiad cyffelyb i bawb. Ond efallai ein bod ni i gyd yn rhannu’r un ‘dryswch amser’. Hyd yn oed os ydym yn gweithio mewn swyddi llawn-amser, rydym wastad yn edrych tuag at y dyfodol, gan ei annog i ddod yn gynt, i ddod â newid. Rydym yn clywed ein hunain yn dweud: Pan fydd hyn i gyd drosodd. Ac eto, yr un pryd, defnyddiwn yr ymadrodd ‘y normal newydd’. Rydym yn cydnabod bod y dyfodol yn anochel a bron yn amhosib – o leiaf, y dyfodol y gwnaethom gynllunio ar ei gyfer. Mae dwy linell amser: y gyntaf yw arafwch y cyfnod clo a’i gyfyngiadau, yr oriau trwm, anniben, anodd, y galar a’r unigrwydd y mae miloedd neu gannoedd o filoedd o bobl yn eu dioddef oherwydd y feirws. Bywydau sydd wedi’u gohirio. Yr ail linell yw’r rhuthr i wneud rhywbeth: i wirfoddoli, i gael gafael ar PPE cyn gynted â phosibl, i ledaenu gwybodaeth hanfodol, i wneud eich mygydau eich hun. Roedd wythnosau cyntaf y cyfnod clo yn drobwll o fwletinau newyddion ac ystadegau a oedd yn newid drwy’r amser, fel bod y byd yn ymddangos yn araf ac yn gyflym, o dan ein rheolaeth (‘Aros Gartref’) ac yn llwyr tu hwnt iddi. Dyma wrthddywediad y mae Baraitser yn honni sy’n cyfateb i fath o ‘argyfwng amser’, yn ôl cysyniad yr hanesydd Reinhart Koselleck. Mae’r profiad o’r ‘argyfwng amser’ yn un o’r pethau dan ‘chwyddwydr enfawr’ y cyfnod clo: roedd yr argyfwng yno cyn y pandemig, ond mae’r pandemig wedi gwaethygu’r dryswch, yr amser hollt. Mae Baraitser yn ysgrifennu am ‘argyfwng amser’ mewn termau cyfarwydd iawn:

In the first decades of the twenty-first century […] we are learning painfully to attune ourselves to the contradictions of both experiences of immediacy and the rapid acceleration in social life, on the one hand, and the simultaneous slow violences of contemporary capitalism on the other […] [T]he quality of the time in which we ask ‘why are we waiting’ may come to describe time consciousness in the twenty-first century. This caesura has duration. We differentially live it, are living in it, enduring it.

Mae yna ddimensiwn newydd i’r cwestiwn ‘pam rydyn ni’n aros?’ yn awr. Rydym i gyd yn aros i ‘hyn ddod i ben’, ond mae’r argyfwng yn parhau i ddatblygu, yn araf, yn anochel. Mae’r cyfnod clo ei hun yn symbol o ‘droseddau araf cyfalafiaeth’: mae’r coronafeirws yn ganlyniad twf cyflym, heb ei wirio, er enghraifft yn ein diwydiant bwyd, a’r difrod yr ydym wedi ei achosi i’r amgylchedd (gw. erthygl Arundhati Roy sy’n ymhelaethu ar hyn, ‘The Pandemic is a portal’ yn y Financial Times, 3 Ebrill 2020). Yn ein cyflwr argyfyngus, mae llawer o’r ‘troseddau araf’ yn ein cymdeithas wedi dod i’r amlwg: argyfwng iechyd meddwl, anghydraddoldeb cym-deithasol dwys, hiliaeth a rhywiaeth barhaus. Mae’r rhain i gyd yn broblemau systemig nad ydynt yn cyd-fynd â’n hamserlen gyfalafol gyfoes. Mae’n cymryd digwyddiad ofnadwy, rhwyg enfawr fel pandemig neu lofruddiaeth gan yr heddlu, i wneud inni sylwi ar y ‘troseddau’ hyn. Felly, mae Baraitser yn dadlau nad mater gwleidyddol yn unig yw’r amser ‘araf’ yma, ond ei fod hefyd yn fater moesegol. Oherwydd mae ymgysylltu ag amser gohiriedig, araf – ‘time that refuses to unfold’, yn ôl Baraitser – yn golygu bod yn ymwybodol o’r gwaith sy’n angenrheidiol i gynnal a gofalu am ein cymdeithas a’n planed.

Wrth gwrs, hyd yn hyn, rwyf wedi canolbwyntio ar natur ailadroddus, hanfodol, anweledig gwaith menywod. Ond mae’r gwaith cynnal a chadw a gofalu yn cael ei wneud gan ein gweithwyr iechyd hefyd, ac efallai mai ward Covid-19 yw’r union le y mae amser yn mynd yn sownd. Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn y Guardian (11 Mehefin 2020), mae meddyg iau, Shaan Sahota, yn disgrifio’r gwaith ar y ward lle mae ar ddyletswydd: mae’n nodi ei fod yn debycach i’r gwaith gofal ailadroddus, cyffredin yr oedd Ukeles yn ei alw yn ‘maintenance’ na’r math o feddyginiaeth yr oedd hi wedi ei hyfforddi ar ei chyfer: 

I spend every 12-hour shift caring for two or three patients. It’s humbling, often manual work. I’m adjusting their anaesthesia agents and checking their urine hourly to balance their fluids. I’m placing pillows under pressure points […] I suction secretions from their airways […] Caring for a severely unwell Covid+ patient is not what you think. I’m so close to them – dripping eye drops under their lids at night, so their unblinking eyes don’t dry out. I may never meet them but I hold vigil over traces of their breath for signs they need help. I change their bedsheets from under them. 

Gwaith gofal, tawel ydy hwn, oni bai am sŵn ailadroddus yr awyryddion, sy’n cynnal bywyd. Unwaith eto, mae yna densiwn rhwng y teimlad o ar-gyfwng, y pwysau aruthrol a’r trawma sy’n ganlyniad y feirws, a’r gwaith gwirioneddol, sy’n cael ei nodweddu gan ailadrodd, diflastod, a chlawstroffobia. Mae ffrind agos, sydd yn feddyg ym Manceinion, yn siarad llawer am ‘ddiflastod’ y pandemig. Pob claf yn dioddef o’r un salwch, a fawr ddim y gall hi ei wneud i’w cynorthwyo i wella. Mae clawstroffobia’r ward yn waeth oherwydd y mygydau y mae’n rhaid eu gwisgo. Mae’n ymddangos bod ein parlys ni – yn aros gartref, yn aros i weld ein teuluoedd ac i barhau â bywyd ‘go iawn’ – yn efelychu parlys gwirioneddol, ofnadwy, y cleifion.

Yn ystod yr argyfwng, nid oedd yn syndod sylweddoli nad oedd llawer o’r bobl y mae ein cymdeithas yn eu talu leiaf wedi cael eu hystyried, tan hynny, yn hanfodol gan y llywodraeth: pobl fel glanhawyr, nyrsys, cynorthwywyr siop, gweithwyr cymdeithasol, gyrwyr lorïau, athrawon. Ochr yn ochr â gwaith hanfodol mae’r gwaith nad yw’n cael ei ystyried fel gwaith – gwaith tŷ a gwaith gofal plant, y gwaith diflas, dyddiol, di-dâl sydd yn sail i’n cymdeithas. Nid wyf yn dadlau y dylid talu, o angenrheidrwydd, am y gwaith hwn (byddwn yn dadlau, serch hynny, fod angen codiad cyflog ar ein gweithwyr hanfodol). Dadlau yr wyf y dylai fod yn weladwy, y dylai gwaith tŷ a gofal plant gael ei gydnabod a’i ystyried yn gyfartal â gwaith cyflogedig. Neu, o leiaf, ni ddylai gwaith gael ei rannu ar sail rhyw. 

Rydym i gyd wedi bod yn aros tan ‘fydd hyn i gyd drosodd’, ond i rai ohonom ni fydd ‘hyn’ fyth drosodd. Mae yna lawer o bobl sy’n byw mewn amser sydd wedi aros yn stond: menywod sy’n gorfod aros gartref drwy’r amser, fel y nododd Durántez; y rhai sy’n gofalu, neu’n galaru, ag anableddau, neu’r rhai sy’n dioddef oherwydd ‘troseddau araf’ strwythurol na ellir eu datrys gan un weithred. Efallai fod ymgysylltu â’r amser hwn – er mwyn cynnal, gofalu, stopio, teimlo, ailadrodd, yn hytrach na datblygu’n gyson, symud ymlaen, rhwygo – yn weithred foesegol. Mae’n llesol i ni a’n cymuned. Ac felly rydw i’n dod i gydnabod, er fy mod yn teimlo rhwystredigaeth yn aros gartref gyda babi ifanc iawn, ac er fy mod yn teimlo dicter bod menywod, yn enwedig menywod â phlant, yn parhau i wynebu rhwystrau cymdeithasol ac economaidd, rydw i hefyd yn ymwybodol bod y cyfnod hwn yn un arbennig. Rwy’n dod i gydnabod bod gan lafur mamol a domestig ei werth ei hun. ‘Maternal time,’ meddai Baraitser, ‘is the time of repetition that comes to matter.’

Dywedodd Baraitser am Enduring Time ei fod yn ‘llyfr anorffenadwy’. Mae hon hefyd yn erthygl sydd yn amhosib i’w gorffen. Ond a oes rhaid gorffen popeth er mwyn iddo wneud synnwyr? Gadawaf fy ysgrif fel y mae, fel slwtsh gwragedd tŷ, fel casgliad o feddyliau nad oes iddynt – yn yr un modd â gofal plant a gwaith tŷ – unrhyw derfyn.

Mae Eluned Gramich yn fyfyrwraig ddoethuriaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Y llun a fewnosodwyd: Stranger 4 gan Shizuka Yokomizo.

Roedd menywod â phlant yn ôl tu mewn, o flaen y sinc

Pynciau:

#Rhifyn 13
#Eluned Gramich
#Ffeministiaeth
#Pandemig
#Amser
#Ysgrifau