Y gwir a geir mewn eira
Cyhoeddi Rhifyn Gaeaf 2021
I’w ryddhau 17 Rhagfyr 2021
Gair am farddoniaeth Gymraeg y 2010au, geni a marw yn Nhŷ’r Llywodraeth ac anialwch pobl ...
Mae Rhifyn Gaeaf 2021 O’r Pedwar Gwynt yn gofyn pam fod ein beirdd wedi mynd i ganu’n llythrennol. ‘Pan ddisgrifia Karen Owen “eira, eira, eira, / yn dawel o dew ... yn dafodau tew” ... pan sylwa Robert Lacey ar fyd “dan dwmpathau disgleirwyn” ... pan sonia Frank Olding am deimlo “llwch yr eira’n gyllyll yn y gwynt” ... pan ranna Morgan Owen hanes ei daith drwy’r “manod gwichlyd ... A’r gwynt yn rhuo” ... a phan ddarlunia Llŷr Gwyn Lewis “[yr] eira’n cuddio’r llwybrau” ... nid yw’r nawr na’r tywydd yn ddyfais. Maent yn rhannu’r hyn sydd o flaen eu llygaid.’ Meddai T Robin Chapman: ‘Mae barddoniaeth Gymraeg wedi cymryd tro llythrenolaidd.’
Ond i denantiaid cyntaf Tŷ’r Llywodraeth ym Mosgo’r 1930au, doedd dim dyfodol heb ddychymyg, ‘Roedd y bobl hyn yn rhan o hen, hen draddodiad o sectariaeth apocalyptaidd,’ meddai’r hanesydd Yuri Slezkine, sy’n cael ei gyfweld yn y rhifyn. ‘Roeddent yn disgwyl y byddai’r byd fel yr ydym yn ei adnabod yn dod i ben yn ystod eu bywydau [...] y byddai ei ddymchwel yn dod gyda thân, llifogydd, daeargrynfeydd, rhyfel a gwaed. Fel yn y broffwydoliaeth Gristnogol. Ac y byddai rhywbeth gwahanol iawn yn dechrau. Roeddent wedi mabwysiadu’r ffydd hon yn ifanc iawn.’
Dychmygu dyfodol tir diffaith heddiw a wneir gan y pensaer tirwedd Steffan Gwynn. Wrth fynd am dro i Ddociau Govan yn Glasgow, ar gyrion uwchgynhadledd COP26, mae’n trafod y newid yn ein perthynas â thirwedd: I ba raddau mae tueddiad ynom i edrych ar lefydd a gefnwyd arnynt drwy lens rhamantaidd neu bictwrésg; neu, fel arall, eu gweld fel llefydd sydd angen eu datblygu, eu gwella?
Mynd am dro wnaeth enillydd Gwobr Ysgrif 2021 O’r Pedwar Gwynt hefyd: ‘Cefais f'ysbrydoli i ysgrifennu “Cribo’r Dragon’s Back”,’ meddai Rebecca Thomas, ‘wrth gerdded yn y Mynyddoedd Duon a chyfarfod â sawl dieithryn ar y daith. Arhosodd un sgwrs yn y cof. Dysgais fod enw arall i’r Grib, cefn wnes i gerdded ar ei hyd, sef The Dragon’s Back. Enw gweddol newydd yw hwn, ond enw poblogaidd sydd wedi llwyddo i ddisodli’r enw Cymraeg ar-lein. Ond roedd mwy i’r sgwrs hefyd. Cefais glywed mai draig ynghwsg oedd y Grib – siâp y tirwedd, mae’n debyg, sydd wedi ysgogi’r enw newydd. Roedd hyn yn canu sawl cloch. Gweithio gyda thestunau canoloesol fyddaf i wrth fy ngwaith bob dydd; ymchwilio i syniadau ynghylch hunaniaeth Gymreig mewn llenyddiaeth, a hanesion Cymraeg a Lladin yr Oesoedd Canol. Felly roedd y math hwn o stori yn gyfarwydd iawn: stori oedd yn egluro enw, stori oedd yn tynnu sylw at nodweddion y tirwedd, stori oedd yn creu hunaniaeth ar gyfer y bobl leol. Ond stori, yn yr achos hwn, oedd hefyd yn annog symudiad ieithyddol; dehongliad Saesneg o le penodol ac iddo enw Cymraeg cyn hyn. Defnyddiais yr ysgrif fel cyfrwng i adlewyrchu ar y broses hon o greu hunaniaethau a cholli iaith yn yr 21g.’ Cyhoeddir yr ysgrif fuddugol yn y rhifyn.
Ar drothwy degawd ieithoedd brodorol UNESCO 2022-2032 mae Elin Haf Gruffydd Jones yn dadansoddi’r tir cyffredin rhwng ieithoedd brodorol a ieithoedd lleiafrifol a’u cyfraniad i amrywiaeth diwylliannol. Pwysigrwydd amrywiaeth a werthusir gan Angharad Penrhyn Jones hefyd wrth iddi adolygu cyfrolau diweddar sy’n gweld cysylltiadau arwyddocaol rhwng bywyd llysieuol a chymdeithas dyn.
Yn ei erthygl ‘Beth yw collapse yn Gymraeg?’ mae Carwyn Graves yn trafod thema flaenllaw mewn llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar, sef goroesiad yr unigolyn a’i ddiwylliant mewn byd dystopaidd. Mae’n ailwerthuso cyfraniad yr Eisteddfod fach leol ac yn defnyddio y gyfrol feistrolaidd Lean Logic gan David Flemming i finiogi ei feddwl wrth chwilio am ffordd ymlaen.
Yn ogystal â’r golofn arferol ‘Darllen llun’, sy'n trafod gwaith y ffotograffydd Vanley Burke a wnaeth gymaint i gofnodi hanes cymunedau Birmingham, mae’r golofn ‘Darllen ffilm’ yn edrych ar ddwy ffilm am Gorbatsiof, dri deg mlynedd wedi iddo sefyll i lawr o’i rôl fel Arlywydd yr Undeb Sofietaidd.
Yn eu colofnau hwythau, mae Dylan Foster Evans yn trafod cannwyll ei lygaid, Siân Melangell Dafydd yn chwilio am ddail tafol, Huw L Williams yn dadansoddi arwyddocâd arbennig newid i’r Cymry, Mihangel Morgan yn sôn unwaith eto am ddillad, Emyr Ll Gruffudd yn cael blas ar ailddarllen a Ned Thomas yn gofyn sut mae Cymreigio Cymreigrwydd?
Ac ynghyd â’r adolygiadau arferol, y gwaith cyfansoddi a’r croesair, mae Siwan M Rosser yn darllen llyfrau’r gyfres i’r arddegau, Y Pump, ac yn eu gwerthfawrogi’n arw; Gwennan Higham yn gwerthuso cyfraniad Hanes Cymry Simon Brooks; Morgan Owen yn darllen nofelau Stefan Zweig; a Diarmuid Johnson yn gwirioni ar farddoniaeth y Belgiad Georges Linze. Heb anghofio Derfel Clarke sy’n gwneud mymryn o waith ditectif, a’r golofn sêr arferol sy’n dadansoddi perthynas Ann Griffiths â’r blaned Neifion.
Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris £4.95, 52tt.
Ceir casgliad o luniau yn y fan hon.
Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â siân@pyst.net
Nodiadau i’r Golygydd
• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;
• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;
• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;
• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;
• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;
• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;
• Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.