Dadansoddi

Mewn tafod does dim esgyrn

Rhannu iaith

Friedrich Nietzsche

‘Über Wahrheit und Lüge im außer-moralischen Sinne’

1873

Emine Sevgi Özdamar, cyf. Craig Thomas

MOTHER TONGUE

Coach House, 157tt, 1994

Mererid Puw Davies
27·04·2021

Un chien andalou gan Luis Buñuel a Salvador Dalí (1929) / Llun: Granger Historical Picture Archive / Alamy


 

Iaith yw’r ffenest y gwelwn y byd trwyddi. Buasai dysgu pob iaith yn y byd fel byw ar ben goleudy, efo gwylfa i bedwar ban. Byddaf yn meddwl am hyn yn aml. Wrth gwrs, nid fi feddyliodd am hyn gyntaf. Bu bri rhyfeddol ar ddeall iaith trwy’r 20g, ac wedi hynny; pe gellid deall iaith yn gyflawn, meddylid, gellid deall popeth. O ganlyniad, i’r rheiny oedd am weld y byd, ieithyddiaeth oedd y sbienddrych. Ond nid darganfyddiad yr 20g mo hynny ychwaith. Yn y byd Almaenig, er enghraifft, un dyddiad cynharach sy’n ganolog ydi 1873, sef y flwyddyn yr ysgrifennodd y clasurwr a’r athronydd Friedrich Nietzsche (1844–1900) ei ysgrif gynnar, ‘Über Wahrheit und Lüge im außermoralischen Sinne’ (Am y Gwir a’r Gau yn yr Ystyr Anfoesegol). Dim ond un rhagflaenydd o blith nifer yw Nietzsche, wrth gwrs, i’r rheiny sydd am ddringo grisiau’r goleudy a syllu trwy ei wydrau; ond mae ei ysgrif fawr ar iaith a chelwydd yn un man cychwyn digon difyr iddynt.   

Yn yr ysgrif fer hon, dadleua Nietzsche mai dim ond anifeiliaid lled-glyfar ar blaned ddi-nod mewn hen gornel ddiarffordd o’r bydysawd ydym ni oll. Dyma ddylanwad traethawd ysgubol Charles Darwin, On the Origin of Species (1859, Ynghylch Tarddiad y Rhywogaethau), a gyhoeddwyd dim ond pedair blynedd ar ddeg ynghynt. Ar yr olwg hon felly, yn ôl Nietzsche, bodau hollol ddibwys ydym ni yn hanes y cosmos, mor fyrhoedlog a di-sylw â gwybed. Ac eto, rywsut rydym wedi dod i gredu, yn rhyfygus ac yn erbyn pob rheswm, ein bod yn arbennig dros ben ac yn ganolbwynt y greadigaeth. Rydym yn credu hyn am ein bod yn ffyddiog mai pobl foesol ydym ni, â gallu annatod i wahaniaethu rhwng gwirionedd ac anwiredd. Mae’r gallu yma yn ein llywio, yn ein barn bach ni, i garu’r gwirionedd a gwrthod y gau, a dyma arwyddnod ein dynoldeb.   

Dyma gamddealltwriaeth wirion ar y naw, meddai Nietzsche. Ac un peth yn unig sy’n gyfrifol amdani: iaith. Yn ôl yr ysgrif hon, does yna ddim cysylltiad hanfodol rhwng unrhyw air a’r hyn y mae’n hawlio’i ddisgrifio. Yn hytrach, dim ond trosiad gwael a gwelw o ddirwedd ydi pob gair, a dim ond cytundeb cyfleus rhwng pobl ynghylch ei ystyr sy’n ei gynnal ac yn rhoi unrhyw rym iddo. Felly, ni all geiriau fod yn gyfrwng i gyfleu gwirionedd o gwbl. Dyma Nietzsche, efo cyfres o drosiadau nodweddiadol gofiadwy:

Pa beth felly yw gwirionedd? Byddin symudol o drosiadau, o drawsenwadau, o anthropomorffiaethau, yn fyr: cyfanswm o gysylltiadau dynol, sydd wedi eu chwyddo, eu trosglwyddo a’u haddurno, ac sydd, wedi defnydd maith, yn ymddangos i bobl yn bendant, yn safonol ac yn orfodol. Rhithiau yw gwirioneddau yr anghofid beth ydynt; trosiadau sydd wedi eu treulio a cholli eu nerth synhwyrus, darnau arian sydd wedi colli eu llun ac nad ydynt bellach i’w hystyried yn ddarnau arian, ond yn fetel. 

Erbyn heddiw, mae iaith ei hun wedi gwisgo yn ofer o denau, ac o ganlyniad wedi ei dibrisio. Mae Nietzsche yn sôn hefyd am iaith fodern fel columbarium. Nid colomendy sydd ganddo yn yr ystyr mwy cyfarwydd, cartrefol, ond columbarium yn yr ystyr Rhufeinig, hynny ydi, math o fedd cyfyng, gor-drefnus. Beddrod y byd a bywyd ydi iaith yn yr oes sydd ohoni. 


Ysgythriad gan Piranesi o columbarium (1756) / Wikimedia Commons
 

O ganlyniad, nid oes unrhyw wirionedd mewn iaith, a does dim posib ei defnyddio i ddweud y gwir. Neu’n fwy diflewyn-ar-dafod, nid yw iaith yn ddim byd ond celwydd. O ganlyniad, does dim gwir a gau mewn gwirionedd, dim ond cydsynio ynghylch ystyron iaith rhwng y rheiny sy’n ei defnyddio, er cyfleustra iddyn nhw eu hunain. Ac o ganlyniad nid yw moesoldeb yn bod. Ar sail y syniadau hyn, mae Nietzsche yn mynd i hwyl wrth roi ei lach arnom ni fel rhywogaeth. Dywed fod iaith yn caniatáu inni oroesi nid trwy nerth a ffitrwydd, fel y mae natur ac esblygiad yn eu herchi, ond trwy dwyll a dichell. Dirywiedig a rhagrithiol yw cymdeithas ddynol felly yn ei chyfanrwydd – a byth yn fwy felly na phan mae’n hawlio’n rhagrithiol ei bod yn caru’r gwir, ac yn caru moesoldeb, oherwydd dim ond anwiredd sydd yn bosib yn yr iaith sydd gennym. Ac nid oes llawer o debygrwydd rhwng y weledigaeth lom hon a’r syniad agoriadol o iaith fel goleudy. 

Ond dim ond un ochr i geiniog Nietzsche ydi’r feiriniaeth lem hon ar iaith. Os nad yw’n bosib disgwyl na chywirdeb, na gwirionedd, na moesoldeb, nac adlewyrchiad gwerthfawr o’r byd mewn iaith, ai rhywbeth di-les ydi hi drwyddi draw? Nage: yn wir, i’r gwrthwyneb. Os na all iaith fod yn sail bywyd moesol, mi all fod yn sail creadigrwydd. Yn wir, pinacl creadigrwydd dynol ydi iaith. Dyma un arall o ddelweddau rhyfeddol yr athronydd:

Yn y cyswllt hwn yn ddi-os gallwn edmygu dyn fel athrylith nerthol o adeiladwr sy’n llwyddo i godi cadeirlan gymhleth o gysyniadau ar sail ansad, ac fel petai ar ddŵr rhedegog. Wrth gwrs, er mwyn i’r fath sail ei chynnal, rhaid i’w hadeiladwaith fod fel petai o we pry copyn: yn ddigon ysgafn i’w chludo ar y tonnau, yn ddigon cryf i wrthsefyll pob gwynt.

Os oes raid derbyn ar y naill law nad yw iaith yn caniatáu inni fyw yn foesol nac yn eirwir, ar y llaw arall mi all ganiatáu inni fyw yn synhwyrus, yn gyfoethog, yn greadigol. Yn ôl yr awdur, dyma athrylith cymdeithasau yr oesau cynt, megis yr hen Roeg, nad oeddynt yn daeog i syniadau dwl am iaith fel llinyn mesur y gwir a’r gau. Yn hytrach, yn oes aur glasurol Gwlad Groeg, roedd rhywun yn byw ac yn bod mewn iaith mewn modd hollol wahanol, yn afresymol, yn fytholegol. 

Ond er difyrred Nietzsche, methu yn lân yr oedd. Nid yw’r gallu dynol i greu cadeirlan fendigedig o iaith ar wyneb dŵr rhedegog wedi pallu. Yn y byd amlieithog, cyfieithiadol sydd ohoni, mae’r potensial hwn, yn wir, yn fwy byw nag erioed. Mi welwn hyn er enghraifft gan awdur cyfoes o’r byd Almaeneg ei iaith, Emine Sevgi Özdamar (1946–). Un o lenorion mwyaf amlwg a neilltuol yr Almaen heddiw ydi Özdamar. Ganed hi yn Nhwrci yn 1946, a daeth i’r Almaen gyntaf yn 1965, fel llawer o’i chyd-wladwyr ar y pryd, i weithio mewn ffatri yng Ngorllewin Berlin. Wedi cyfnod arall yn Nhwrci, lle’r astudiodd ac y gweithiodd ym myd y theatr, dychwelodd i’r Almaen yn 1976. Aeth i Ddwyrain Berlin y tro hwnnw, i weithio yn theatr adnabyddus a chwedlonol y Berliner Ensemble, a fu gynt yn weithle i’r dramodydd a’r cyfarwyddwr Bertolt Brecht. Cafodd Özdamar yrfa ddisglair wedyn yn yr Almaen, o nawdegau’r 20g ymlaen, mewn theatr a ffilm, fel actor, dramodydd, a chyfarwyddwr, ac fel llenor yn ogystal. 

Wrth i Özdamar ddod yn amlwg fel awdur, meddylid amdani hi yn gyntaf fel llais trawiadol i’r diaspora Twrcaidd sylweddol yn yr Almaen. Ond erbyn heddiw, a hithau wedi cyhoeddi cyfres hir o weithiau, mewn rhyddiaith yn enwedig, a derbyn llu o wobrau ac anrhydeddau, mae ei gwaith ymhell y tu hwnt i unrhyw ddiffiniadau unplyg. Edmygir Özdamar am ei hysgrifennu mewn arddull sy’n aml yn ffantastig neu’n absẃrd, ac sy’n cyfuno comedi, cellwair, breuddwyd, rhamant a rhyngdestunoldeb â dadansoddi cymdeithasol craff a didrugaredd. Yn y byd llenyddol hwn, mae amlieithedd yn destun ac yn gyfrwng parhaus.

✒︎

Mae gwaith ffuglennol adnabyddus cyntaf Özdamar, y casgliad o straeon byrion Mutterzunge (1990, Mamdafod), yn enghraifft nodedig sydd wedi hen ennill ei blwyf yn glasur modern. Mae wedi ei gyfieithu i lawer o ieithoedd, gan gynnwys cyfieithiad Saesneg gan Craig Thomas, ac fe’i dewiswyd gan y Times Literary Supplement yn llyfr rhyngwladol y flwyddyn yn 1994. Dyma gasgliad o bedair stori fer am wahanol gymeriadau sydd yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng Twrci a’r Almaen, ac yn methu teimlo’n gartrefol yn y naill na’r llall. Hanfod eu bodolaeth, yn hytrach, yw’r broses gyson o ymfudo a chroesi ffiniau, ac mae iaith yn ganolog i’r broses honno. Mae’r gyfrol yn siarad yn huawdl felly ynghylch pwysigrwydd iaith a chymdeithas – a moesoldeb a moeseg hefyd, ac yn ailgydio yn thema Nietzsche, a’i herio yr un pryd. 

Mae’r teitl ei hun yn tynnu sylw at y themâu hyn. Dyma sut mae’r gyfrol yn agor, efo’r prif gymeriad dienw yn dweud: ‘Yn fy iaith i mae tafod yn golygu: iaith. / Mewn tafod does dim esgyrn; i ba gyfeiriad bynnag y mae rhywun yn ei droi, yno’r aiff.’ Gall iaith wneud unrhyw beth. 

Mae’r stori gyntaf yn y casgliad, hithau’n dwyn y teitl ‘Mamdafod’, yn canolbwyntio ar y profiad graddol o golli mamiaith wedi i’r prif gymeriad ymfudo o Dwrci i’r Almaen. Wrth gofio am ei mam, myfyria: ‘Dydw i ddim ond yn cofio mamfrawddegau a ddwedodd hi yn ei mamdafod trwy ddychmygu ei llais; daethai’r brawddegau i’m clustiau fel iaith dramor a ddysgais i’n dda.’ Pryd profodd hi’r golled hon? Pan welodd gadeirlan Cwlen o ffenest trên wrth gyrraedd prif orsaf y ddinas honno? Mae’n cofio am y foment fel hyn:  

Ar y dechrau yn y wlad hon, allwn i ddim edrych ar Gadeirlan Cwlen. Pan gyrhaeddai’r trên, byddwn yn cau fy llygaid bob tro, ond un tro mi agorais un llygad, ac yn y funud honno mi welais i hi: roedd yr eglwys gadeiriol yn edrych arna i, yna daeth llafn rasal i mewn i’m corff a rhedeg trwyddo, yna peidiodd y boen, agorais fy ail lygad. Efallai mai yno y collais fy mamdafod.   

Mae’r disgrifiad rhyfedd hwn yn atgoffa rhywun o ffilm enwog Luis Buñuel a Salvador Dalí, Un chien andalou (1929, Ci Andalwsaidd), sy’n cael ei chyfri hyd heddiw yn un o brif weithiau swrealaeth glasurol Ewrop. Delwedd fwyaf adnabyddus y ffilm honno yw’r llun o lafn rasal sydd fel petai’n mynd i dorri llygad merch yn agored. Mae’r gyfeiriadaeth felly’n hysbysu darllenydd ‘Mamdafod’ na ddylai ddisgwyl realaeth yn y gyfrol, ond yn hytrach arddull(iau) mwy arbrofol. Mae’r olygfa hon yn ‘Mamdafod’ yn awgrymu hefyd fod colli iaith yn broses dreisgar, ymosodol a chorfforol, fel ergyd cyllell finiog. Ac nid yw dysgu Almaeneg fel oedolyn yn digolledu’r prif gymeriad am golli ei mam-dafod, oherwydd, meddai hi: ‘[y]n yr iaith dramor nid oes gan eiriau blentyndod.’ 

Yn ail stori’r casgliad felly, ‘Großvaterzunge’ (Taid-dafod), aiff y cymeriad ati i geisio adfer y sefyllfa mewn ffordd annisgwyl. Mae hi’n myfyrio ar y ffaith fod Arabeg yn ffynhonnell bwysig i Dwrceg fodern, fel hyn:  

Rydw i am ddysgu Arabeg, honno fu’n ysgrifen inni unwaith, ar ôl rhyfel ein hannibyniaeth yn 1927, dyma Atatürk yn gwahardd ysgrifen Arabeg a daeth y llythrennau Lladin, dim ond yr ysgrifen Arabeg fedrai fy nhaid, a dim ond yr wyddor Ladin sy’n gyfarwydd i mi, felly, pe bai fy nhaid a minnau’n fud a ddim ond yn medru siarad â’n gilydd ar glawr, fuasai yna ddim straeon rhyngom. Efallai ’nôl at Taid yn gyntaf, wedyn mi ga i hyd i’r trywydd at fy mam a’m mamdafod.

Dyma fath arall ar golli iaith sy’n creu rhwyg rhwng y cenedlaethau, er eu bod yn siarad yr un iaith ar lafar. Mae’r prif gymeriad yn penderfynu ceisio adennill ei mamiaith, Twrceg, trwy fynd ati i ddysgu ei thaid-dafod, sef Arabeg, a hanes ei gwersi yn yr iaith honno ydi craidd yr ail stori. Er ei bod yn byw yn Nwyrain Berlin, mae’n cael hyd i athro Arabeg uchel ei barch yng Ngorllewin Berlin. Felly, oherwydd gosod y stori cyn codi’r Llen Haearn yn 1989, mae’r cymeriad, yn awgrymus ddigon, yn croesi’r ffin honno’n rheolaidd er mwyn cael mynd i’w gwersi. Mae’r iaith a’r ysgrifen Arabeg yn ei chyfareddu o’r cychwyn cyntaf. Mae’r disgrifiadau o lythrennau Arabeg, er enghraifft, yn hardd a chofiadwy:

Roedd rhai yn edrych fel aderyn, rhai fel calon efo saeth trwyddi, rhai fel carafán, rhai fel camelod yn cysgu, rhai fel afon, rhai fel coed yn hedfan oddi wrth ei gilydd yn y gwynt, rhai fel nadredd yn rhedeg, rhai fel pomgranadwydd yn rhynnu mewn gwynt a glaw, rhai fel aeliau wedi cael braw garw, rhai fel pren yn nofio ar ddŵr, rhai fel tin dew dynes yn eistedd ar garreg boeth mewn baddon Twrcaidd, rhai fel llygaid sy’n methu cysgu.

Yn fuan iawn mae’r prif gymeriad a’i hathro yn syrthio mewn cariad, ac yn mynegi hyn trwy gyfrwng iaith. Maen nhw’n darllen ac yn ysgrifennu efo’i gilydd, yn rhannu iaith delynegol, angerddol a straeon breuddwydiol, yn ogystal â darlleniadau o’r ysgrythur a llenyddiaeth. Maen nhw hefyd yn aml yn cymharu geiriau Twrceg ac Arabeg, ac yn darganfod eu tebygrwydd mewn deialog, fel hyn:

‘Beth ydi Musalla mewn Arabeg?’
‘Man i weddïo ynddo. […]’
‘Gennym ninnau hefyd. Beth ydi Muska?’
‘Gair hud.’
‘Gennym ninnau hefyd. Beth ydi Esrar?’
‘Cyfrinachau.’

Ac felly ymlaen. Mae’r ddeialog yn caniatáu i’r cariadon bontio gagendor ieithyddol a diwylliannol, yn ogystal â chreu cyswllt newydd rhwng y prif gymeriad a’i thaid-dafod. Ond, bob yn dipyn, mae’r garwriaeth yn methu oherwydd nad yw’r ddau yn medru cytuno sut i gyd-fyw, ac yn y pen draw gwahanu yw eu hanes. Mae’r prif gymeriad yn gadael cartref ei hathro yn llawn galar ac yn taflu papurau sy’n llawn geiriau a llythrennau i’r gwynt uwchben ffordd fawr.

Ar yr olwg gyntaf, mi allai rhywun farnu mai methiant fu’r prosiect o ailddarganfod mamiaith trwy daidiaith. Ond nid yw hynny’n gywir, am ddau reswm o leiaf. Yn gyntaf, mae’r prif gymeriad wedi dysgu llawer yn ystod ei gwersi Arabeg, ac mae’r hyn y mae hi’n ei ddysgu yn ffurfio rhan bwysig o’r stori ei hun, hynny ydi, yn dod yn rhan o weledigaeth greadigol barhaus. Yn ail, mae’r prif gymeriad yn cludo’r hyn a ddysgodd hi efo hi wrth symud ymlaen i greu perthnasau newydd. Ar ddiwedd y stori, wedi iddi adael ei hathro, mae hi’n cyfarfod gwraig ifanc o Almaenes sy’n crio, ac yn holi ei hanes. Mae’r ferch yn adrodd hanes ei chariad hithau, sydd wedi cyflawni hunanladdiad. Wedi rhannu’r stori, mae’r prif gymeriad yn chwarae’r gêm cyfnewid geiriau efo’r ferch, fel y gwnaethai gynt efo’i hathro Arabeg:

‘Beth ydych chi’n ei wneud yn yr Almaen?’ gofynnodd y ferch. Medde finnau: ‘Casglu geiriau’ […] a chofiais air arall yn fy mamdafod: Ruh – ‘ruh ydi enaid,’ medde fi wrth y ferch. ‘Enaid ydi ruh,’ meddai hithau. 

Mae’r prif gymeriad yn dysgu gair Twrceg newydd i’r ferch, ‘Ruh’. Ac wrth i honno ailadrodd y gair dieithr, mae’r darllenydd yn sylweddoli bod ‘Ruh’ yn agos iawn at y gair Almaeneg ‘Ruhe’,
sef gorffwys neu hedd. Dyma felly drosglwyddo’r gêm eiriau i gyd-destun newydd. Mae’n dod yn ffordd o greu cysylltiad rhwng y ddwy ferch, ac mae ynddi addewid efallai yn y gair ‘Ruh’ y bydd lleddfu eu poen. Hynny ydi, mae’r ddeialog yn ymagor ar gipolwg ar gysur. 

Mae diwedd y stori ‘Taid-dafod’ yn awgrymu bod byw yn amlieithog, fel a wna ei phrif gymeriad, yn broses amlochrog. Ar y naill llaw, mae’r cymeriad yn galaru dros golledion ieithyddol. Gall y rhain fod yn hanesyddol, megis colli llythrennedd mewn Arabeg. Neu gallant fod yn bersonol ac yn emosiynol, fel colli adnabod ar famiaith. Ond, ar y llaw arall, iaith yw sylwedd y stori hudolus ei hun. A gall iaith greu cysylltiadau newydd wrth i rywun symud ymlaen ynddi a thrwyddi. Ar ddiwedd ‘Taid-dafod’ mae dwy ferch drist yn cyfnewid ac yn dysgu geiriau mewn deialog, ac felly yn agor y posibilrwydd o fod yn gefn i’w gilydd, a geiriau yn ennill ystyron newydd. 

Fel holl gymeriadau Özdamar, rhywbeth sydd yn symud yn dragwyddol yn ei blaen ydi iaith, fel cadeirlan Nietzsche ar wyneb yr afon. Mae’r symud hwnnw yn ei thrawsnewid yn gyson. Os nad yw iaith, yn ôl Nietzsche, a wnelo â moesoldeb ar unrhyw ffurf draddodiadol, yn ôl Özdamar, mae rhannu iaith yn gyfle i greu cymuned newydd sy’n seiliedig ar empathi. Iaith sy’n arddangos ei hegwyddor. Ac mae iaith, ar yr olwg hon, yn fwy na ffenest neu ysbienddrych neu ddrych i syllu trwyddynt ar y byd y tu draw. Hi yw defnydd y byd ei hun: nid rhywbeth i edrych iddi, na thaflu goleuni arni o bell. Rhywbeth i fyw, i deithio, ynddi. 

Mae’r ysgrif hon yn seiliedig ar sgwrs a draddodwyd i’r symposiwm ‘Trwy Brism Iaith’, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Tachwedd 2020.

Pynciau:

#Rhifyn 15
#Mererid Puw Davies
#Nietzsche
#Iaith
#Twrci
#Ffilm