Adolygu

Adolygu


Prys Morgan

Mae Peter Lord yn llenor dadleuol. Sylwch ar y teitl: ‘Celfyddyd Gymreig’, nid yr artist yng Nghymru, neu’r celfyddydau yng Nghymru, fel a gafwyd mewn cynifer o lyfrau ac arddangosfeydd. Sylwch yn ogystal ar ‘Y Traddodiad’. Yn 1976 cyhoeddodd y diweddar Gwyn Thomas Y Traddodiad…

Adolygu


Bethan Mair

Gallaf gofio’n glir iawn, a minnau yn y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, ddarllen rhai o nofelau cynharaf Aled Islwyn, a dwlu’n llwyr arnyn nhw. Sarah Arall ac, yn arbennig, Cadw’r Chwedlau’n Fyw oedd rhai o’r gweithiau a seliodd fy mhenderfyniad i droi oddi ar…

Adolygu


Simon Brooks

Yn y casgliad uwchdreiddgar hwn o ddyddiaduron (‘uwch’ ydi’r elfen hanfodol yng ngeiriau cyfansawdd, Almaeneg eu naws, unigryw Robat Gruffudd), ceir mwy na lolian, ac eto mae yna hen ddigon o lolian yr un fath. Y mae’n perthyn, wrth reswm, i’r traddodiad dyddiadurol…

Adolygu


Meic Birtwistle

Flynyddoedd ar ôl marwolaeth fy nhad, edrychais o'r diwedd ar y casgliad llychlyd o lyfrau a ddaeth o atig tŷ’r teulu yn Llundain. Ymysg y trysorau roedd ’na un perl. Tu fewn i glawr caled hyfryd o'r 30au roedd llofnod fy nhad-cu Cymraeg, J L Thomas…

Adolygu


J Aaron, E Gruffudd, R Lacey

Wrth i ni fynd i'r wasg roedd yr economegydd Thomas Piketty yn dychwelyd o Cannes, lle cyhoeddwyd y byddai ffilm yn cael ei chreu ar sail Capital in the Twenty-first Century. Bu'r gyfrol, sy'n archwilio effeithiau cyfalafiaeth ar y byd, ar frig…

Adolygu


Y Twlc

Gwennan Evans
Chwilio am Dân gan Elis Dafydd (Barddas, 2016)

Fy hoff lyfr i eleni yw Chwilio am Dân gan Elis Dafydd. Hon yw ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth ac mae profiadau ieuenctid yn ganolog iddi. Er mai cyfrol fer o ryw ddeg ar hugain o gerddi yw hi, fe'm…

Adolygu


Jon Gower

Prin y byddai rhywun a ddarllenodd ddwy nofel flaenorol Euron Griffith yn medru dweud taw’r un awdur a ysgrifennodd Tri Deg Tri. Dyma nofel bur wahanol - o ran ei saernïaeth, ei chynnwys, ei huchelgais a’i gweledigaeth.

Adolygu


Samuel Jones

Roedd cynhadledd 'Dialog' a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ddiwedd mis Hydref yn gyfle i ddathlu Cymru yn Ewrop, ac i'n hatgoffa'n hunain ein bod ninnau hefyd yn rhan o etifeddiaeth Ewrop. 

Adolygu


Carys Mai

Gosodais her i mi fy hun ar ddechrau 2016: darllenwn hanner cant o lyfrau cyn diwedd y flwyddyn. Er taw ffuglen sydd wedi cadw cwmni i mi gan mwyaf wrth erchwyn y gwely, ymdriniaeth Euros Lewis o ddiwylliant, yn ei lyfr Theatr a…

Adolygu


Tomos Owen

Fel sawl tŷ unnos go iawn sy’n dal i fritho cefn gwlad, mae i ddelwedd y bwthyn yn ein llenyddiaeth ryw wytnwch cadarn. Os codwyd nhw ar frys, i ateb galw ac angen penodol, safasant am genedlaethau ddigon wedyn. Ac er mor…

Adolygu


Llŷr Titus

Mae Anweledig - Rhan 1 gan Aled Jones Williams ymysg y profiadau theatrig mwyaf cofiadwy i mi eu cael yn Gymraeg. I’r rhai ohonoch a oedd ar eich colled ac na welodd y dangosiad hwnnw, monolog hir a dirdynnol wedi ei…

Adolygu


O’r Pedwar Gwynt

Roedd Caernarfon yn ganolfan bwysig i'r diwydiant argraffu a chyhoeddi yng Nghymru am yn agos i ddwy ganrif — hyd at yr Ail Ryfel Byd. Sefydlwyd Gŵyl Inc i ddathlu'r hanes hwnnw a chyfraniad y dref i'r byd cyfathrebu.

Adolygu


Jon Gower

Rhai blynyddoedd yn ôl, bûm yn yfed cwrw yn y Bridge Inn yn Llangain, neu Kentchurch, yn Sir Henffordd a phenderfynu ar ôl un – neu dri – ceisio ymweld â phlasty cyfagos i weld portread honedig o Owain Glyndŵr (neu Siôn Cent o leiaf) ar y waliau…

Adolygu


Jon Gower

Un o drydariadau cofiadwy'r Eisteddfod eleni oedd hwnnw gan Guto Dafydd, enillydd gwobr goffa Daniel Owen, wrth iddo longyfarch Eurig Salisbury ar ei gamp yntau parthed y Fedal Ryddiaith. ‘Wel wel, mae'r beirdd wedi parcio'u tanciau ar lawnt y rhyddieithwyr...’ dywedodd Guto ac roedd e’n…

Adolygu


Y Tad Deiniol

Pa mor radical mewn gwirionedd yw’r opsiynau a gyflwynir yn y gyfrol Ai Duw yw'r Broblem gan Aled Jones Williams a Cynog Dafis? I ba raddau y mae’r gyfrol yn llwyddo i ddod o hyd i ‘ffyrdd amgen’ neu ‘bersbectif newydd’? A yw’n bosib bod cais yr awduron ynddo’i hun…

Adolygu


Dylan Huw

Roedd June a Jennifer Gibbons yn ddwy efell a fagwyd yn Hwlffordd wedi i’w rhieni fudo o Farbados pan oedd y merched yn fabanod. Gan iddynt gael eu bwlio’n arw yn yr ysgol – yn hiliol hefyd – stopiodd June a Jennifer gyfathrebu…