Cyfweld

Cyfweld Sfetlana Aliecsiefits

Sfetlana Aliecsiefits, cyf. Bela Shayevich

Second-hand time

Fitzcarraldo, 696tt, £14.99, Mai 2016

Sfetlana Aliecsiefits, cyf. Anna Gunin, Arch Tait

Chernobyl Prayer

Penguin, 304tt, £9.99, 2016

Ned Thomas

Amser darllen: 25 munud

09·12·2017

‘Mae gen i dri chartref,’ meddai Sfetlana Aliecsiefits yn ei darlith adeg derbyn Gwobr Llenyddiaeth Nobel yn 2015, 'tir Belarws, sef tir fy nhad, lle bûm yn byw gydol fy oes; yr Wcráin, gwlad fy mam, lle'm ganwyd, a'r diwylliant mawr Rwsiaidd, na fedraf ddychmygu byw hebddo.'

Ganwyd Sfetlana Aliecsiefits yn 1948 ac felly bu ganddi bedwaredd gwlad hefyd, sef yr Undeb Sofietaidd, a ddiddymwyd yn ffurfiol ar Ŵyl San Steffan 1991. 'Rydym wrthi'n ffarwelio â'r cyfnod Sofietaidd ac â'r bywyd hwnnw. Ceisiais wrando'n astud ac yn ddiduedd ar leisiau pob un a gymerodd ran yn y ddrama sosialaidd ...' Dyna frawddegau agoriadol ei llyfr diweddaraf, Amser Ail-law, a gyhoeddwyd mewn cyfieithiad Saesneg yn gynharach eleni, pan fu'r awdur yn ymweld â Gŵyl y Gelli. Maent yn crynhoi ei phwnc — a’i thechneg hefyd, sef gwrando a chofnodi. Bu'n gwrando ers ei phlentyndod yng nghefn gwlad Belarws pan eisteddai ar y fainc tu allan i'r tŷ, a chlywed y gwragedd yn adrodd straeon am yr Ail Ryfel Byd, a fu ar ei ffyrnicaf a’i fwyaf cymhleth a chreulon ym Melarws.
 

Clinig plant yn Pripyat, yr Wcráin


Dywed y papurau newydd mai dyma'r tro cyntaf i newyddiadurwraig ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth. Mae'n wir i Sfetlana Aliecsiefits gael hyfforddiant a gweithio fel newyddiadurwraig broffesiynol, ond ei phrosiect hi ac nid prosiect papur newydd oedd y gwaith a arweiniodd at y llyfrau, ac fel math o gelfyddyd y gwêl hi'r gyfres o bum cyfrol a luniodd dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Yn wir, er iddi recordio cannoedd ar gannoedd o bobl ar gyfer ei llyfrau, nid deunydd crai yw'r testunau ond lleisiau unigolion, wedi eu golygu a'u trefnu a'u cyfosod yn gelfydd iawn. 

Ar un olwg, mae hi’n perthyn i draddodiad Solsienitsyn, Iefgenia Ginsbwrg, Anna Achmatofa, Farlam Shalamof a llawer un arall a gofnododd gyfnod Stalin, a'r gwersylloedd yn arbennig. Galwch eu gwaith yn nofelau, yn hunangofiannau, yn farddoniaeth, yn ddogfennau, yn glytweithiau — pa ots am hynny, maent yn cofnodi profiad miliynau bob un. Braint yr awduron hyn oedd cael rhoi llais i'r rhai na fyddai ganddyn nhw lais fel arall. A’u tynged oedd dioddef a marw hefyd, yn aml, yn eu cwmni. Yng ngeiriau Anna Achmatofa,

Bûm yno gyda'r werin yn ei thrallod,
Yno lle roedd rhaid i'r druan fod.

Ond mae Sfetlana Alecsiefits yn gosod pellter rhyngddi hi a'r traddodiad arwrol hwnnw hefyd ac, yn y lle cyntaf, pellter amser ydyw. Erbyn hyn mae hi'n edrych yn ôl o bersbectif diwylliant mwy agored ar fyd a chyfnod caeedig. Nid yw ychwaith, yn wahanol i Achmatofa, yn gallu siarad gyda'r un sicrwydd am y genedl o safle ar y tu mewn iddi. Rwsieg yw ei diwylliant a'i phrif iaith lenyddol; Belarws yw'r wladwriaeth y mae bellach yn byw ynddi.

Gwahaniaeth arall yw ei bod yn rhoi llais nid yn unig i'r rhai a ddioddefodd dan gomiwnyddiaeth (ac a gafodd gymaint o sylw yn y Gorllewin yn nyddiau'r rhyfel oer) ond i'r rhai a fu'n gomiwnyddion selog hyd y diwedd un, a hefyd i lawer o bobl gyffredin yr oedd diwedd y drefn gomiwnyddol yn golled enbyd iddynt. Ac yn olaf, rwy'n tybio ei bod yn amheus o bob mynegiant nad yw'n tarddu'n uniongyrchol o brofiad y llefarydd. Iddi hi, mae gan bob un ei wirionedd sydd yn tanseilio'r syniad o broffwyd neu arwr unigryw. Yn y cyd-destun hwn mae Aliecsiefits yn cydnabod dylanwad Farlam Shalamof, awdur y gyfrol ddirdynnol honno, Straeon Kolima. Iddo ef roedd pob peth nad oedd gan lefarydd brofiad ohono, yn ei gnawd ei hun, yn ffug, yn ddim mwy na 'llenyddiaeth'. 

Nid yw’r cyfweliad isod yn enghreifftio cynnwys y gyfrol Amser Ail-law. Yng nghorff y llyfr, ni chlywir llais yr awdur. Mae hi yno fel clust i wrando a llaw anweledig i olygu a chyfosod. Ond yn y cyfweliad clywir llais Sfetlana Alecsiefits ei hun. Mae hynny'n un rheswm da dros ei gyfieithu. Daw'r testun Rwsieg o gefn y gyfrol olaf yn y casgliad cyflawn o'i gwaith, a gyhoeddwyd ym Mosco yn 2016, ar ôl dyfarnu Gwobr Nobel iddi. Mae'r cyfweliad yn glo felly nid yn unig ar y gyfrol Amser Ail-law ond hefyd ar y gyfres gyfan. Mae hwnnw'n rheswm da arall.

Mae'n bleser gallu cynnig i ddarllenwyr O'r Pedwar Gwynt ddeunydd nad yw ar gael hyd yma, hyd y gwn i, ond yn y Rwsieg wreiddiol. Yn sicr, nid ymddangosodd y cyfweliad yn y cyfieithiadau Saesneg na Ffrangeg o'r llyfr. Mae'n bosib mai rheswm ymarferol yn ymwneud ag amserlen cyfieithu a chyhoeddi sy'n gyfrifol am hynny, ond mae'n bosib hefyd bod y cyhoeddwyr tramor yn gweld y cyfweliad yn ormod o sgwrs fewnol rhwng Rwsiaid. I mi, mae hyn yn rhan o'i apêl — ac i chithau hefyd, gobeithio.

Natalia Irgwnofa yn holi Sfetlana Aliecsiefits. Cyfieithwyd o’r Rwsieg gan Ned Thomas.

Yn dy lyfr diweddaraf rwyt yn rhoi bys ar un o friwiau mawr ein dadleuon cyfoes. Aeth ugain mlynedd heibio ers i'r Undeb Sofietaidd ddod i ben ac mae'r gymdeithas Rwsiaidd mor rhanedig ag erioed — o blaid neu yn erbyn y newid a ddigwyddodd. Clywir dadlau ffyrnig ar y rhaglenni trafod, ac yn y cyfryngau'n gyffredinol, bob tro y trafodir cynigion o fath arbennig yn senedd Rwsia: a ddylid symud Lenin o'i feddrod mawreddog? Sut dylid cyfeirio at Stalin? Oes angen ailgloriannu rhai o ddigwyddiadau'r Ail Ryfel Byd? Beth oedd natur cyfraniadau Gorbatsiof a Ieltsin? A sut ddylai'r gwerslyfrau a ddefnyddir yn ein hysgolion drin ein hanes diweddar a diweddar iawn?

Ofn sydd wrth wraidd hyn i gyd; ofn wynebu'r realiti newydd sy'n agor o'n blaenau — a ninnau heb fod yn barod amdano. Rydym yn ddiymadferth ac yn chwilio am amddiffynfa yn y gorffennol neu, yn hytrach, yn ein mythau o'r gorffennol. Cawsom ein gyrru allan o libart y cyfnod Sofietaidd i ryw amser cyffredinol. Ar y cychwyn, roedd yr arwyddion i gyd yn awgrymu y byddem yn ei chael hi'n hawdd dod i ben â'r byd newydd. Edrychai'r werin ymlaen at gael yr un siopau â phawb arall, a'r un cynnyrch yn ffenestri'r siopau. Roedd y deallusion yn disgwyl bod yn gyfartal â'r elît rhyngwladol ac ymdoddi i'r dosbarth hwnnw. Ond 'doedd pethau ddim mor syml. Roedd gwaith anferth yn ein hwynebu, gwaith a oedd yn gofyn am bobl rydd â meddyliau agored. Ond doedd dim profiad o ryddid gennym. Canlyniad hynny oedd encilio o'r byd tu allan yn hytrach na nesáu ato.

Mewn arolwg barn diweddar am agweddau pobl at wahanol arweinwyr gwleidyddol, Briesnief oedd y mwyaf poblogaidd — roedd 56% o’r rhai a holwyd yn bleidiol, o gymharu â 55% a oedd yn bleidiol i Lenin a 50% i Stalin. Agweddau negyddol a fynegwyd tuag at Gorbatsiof a Ieltsin (66% a 64% yn anffafriol).

Mae hyn yn dangos bod arweinwyr cymdeithas yn ystod cyfnod y trawsnewid wedi methu'n llwyr â gwneud y gwaith y dylen nhw fod wedi ei wneud. Cafodd pobl eu siomi'n aruthrol gan yr hyn a ddigwyddodd.

Dywed un o'r cymeriadau yn dy lyfr: 'Rydym yn dal heb ddeall yn iawn yr hen fyd yr oeddem yn byw ynddo tan yn ddiweddar ac, yn sydyn, dyma ni'n byw mewn byd newydd. Aeth gwareiddiad cyfan i'r domen sbwriel.' Tybed nad dyna'r broblem: yn lle ceisio deall beth ddigwyddodd rydym am frysio naill ai i ganmol neu i gondemnio'r newid. Mae dy lyfrau di yn rhoi llais i bob math o wahanol bobl — ac yn rhoi llais hefyd i'r cyfnod.

Rwyf yn ceisio dweud rhywbeth hefyd am y syniad iwtopaidd a yrrai'r byd Sofietaidd; nid y syniad ei hun yn gymaint â thrasiedïau hanfodol y bywydau dynol a aeth drwy'r felin bryd hynny. Dydw i ddim yn barnu neb. Roedd y syniad o greu iwtopia yn gyrru rhai o'r bobl orau, pobl gwbl ryfeddol. Ymroesant yn llwyr i adeiladu'r byd newydd, yn llawn ffydd eu bod ar y llwybr iawn ac yn gweithio er lles a hapusrwydd y ddynoliaeth. Cwrddais â phobl a oedd yn dal i feddwl felly. Ond mae profiad miloedd o flynyddoedd yn dangos nad ar adfeilion y mae codi unrhyw beth, ond yn hytrach trwy waith pwyllog, yn yr hir dymor.
 

Y deithwraig nad oes argyhoeddi arni, Kiev


Ydy'r broblem felly yn tarddu o'r syniad ei hun, ynteu o'r dulliau a ddefnyddir i'w wireddu a’r bobl sy'n rhoi'r syniad ar waith?

Mae i syniadau eu cyfrifoldebau hefyd. Rwyf wedi f’argyhoeddi o un peth: rhaid brwydro’n syniadol yn hytrach na lladd pobl. Treuliais flynyddoedd yn byw yng ngwledydd Ewrop. Nid cau eu hunain mewn tyrau ifori a breuddwydio y mae awduron, dramodwyr ac artistiaid yn y gwledydd hynny. Maent yn cynnal trafodaeth barhaol am yr hyn sy'n digwydd mewn cymdeithas. Mae hyn yn arbennig o wir yn yr Almaen, y wlad debycaf i'n sefyllfa ni, efallai. Yno, maent wedi deall bod yna bethau sy’n llechu yn y natur ddynol y mae'n rhaid eu hofni. Efallai fod y bwystfil mawr wedi ei ladd, ond mae angenfilod bychain yn gallu ein goresgyn a thyfu'n fwy — a thyfu'n fwy erchyll na'r bwystfil mawr, hyd yn oed. Does gan ein deallusion a'n llenyddiaeth ddim profiad o ymladd yn erbyn yr angenfilod bychain ...

Sut wyt ti dy hun yn cloriannu profiad y saith deg mlynedd diwethaf yn ein hanes? Sut beth oedd comiwnyddiaeth neu sosialaeth? Mae rhai yn dy lyfr yn sôn amdanynt fel ‘firws’ a ‘haint’. Ai rhyw fath o salwch torfol oedd y cwbl, neu'n hytrach ymdrech i nesáu at ddelfryd loyw ond anghyraeddadwy — ynteu rywbeth arall eto?

Am y tro, mae'r ddelfryd, yn naturiol, yn anghyraeddadwy. Er fy mod yn credu bod y ddynoliaeth ar daith tuag at gymdeithas gyfiawn, dim ond yn y dyfodol pell y gwelir honno.

Mae mwyafrif y bobl gyffredin yn gweld popeth a ddigwyddodd ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd fel anghyfiawnder mawr.

Ac yn gyfiawn felly. Anghyfiawnder o'r mwyaf oedd yr hyn a ddigwyddodd yn Rwsia. Bûm ar daith yn ddiweddar o gwmpas rhyw ddeg o ddinasoedd a holi cannoedd o bobl. Doedd pobl ddim yn gwadu creulondeb a gormes Stalin ond, ar yr un pryd, roeddent yn cofio'r drefn Sofietaidd fel un a oedd yn decach â’r bobl gyffredin. Doedd y cyfoethog bryd hynny ddim mor ddigywilydd â'r genhedlaeth gyntaf o gyfalafwyr a ddaeth yn eu lle, ac roedd llai o lygredd. Gweld colli'r syniad o fywyd rhinweddol yr oedd yr hen do a holais, y syniad bod y llywodraeth yn cefnogi'r bywyd cymunedol a chyfartal. Yn fy nghenhedlaeth i, ac yn arbennig ymhlith y deallusion, collodd llawer eu bywoliaeth yn sgil y newid, a gorfod wynebu tlodi. Roedd y genhedlaeth ifanc yn gryfach ac yn gallu ymdopi’n well â'r newid, yn y dinasoedd mawr o leiaf. Yn y trefi bychain ac yng nghefn gwlad, mae problemau’r bobl ifainc heb eu datrys. Yn fwy na dim, maent yn dioddef am fod addysg bellach, i bob pwrpas, yn rhywbeth y mae'n rhaid talu amdano. Ac oherwydd hynny, mae yna ryw deimlad — yn arbennig ymhlith yr ifainc — bod angen aildrefnu popeth o'r cychwyn eto.

Petaem ni, bryd hynny, wedi dewis llwybr democratiaeth gymdeithasol, mae’n bosib y byddai pethau’n wahanol. Ond pa faint gwell ydym o ddyfalu? Cawsom ergyd drom iawn yn y nawdegau, ergyd nad oeddem yn ei disgwyl. Roedd y deallusion yn meddwl eu bod yn gwybod beth oedd ei angen, sef newid a chyfnod newydd. Ond eisiau gwelliannau materol i’w bywydau roedd y werin. Gyda llaw, mae gan y cymeriadau yn fy llyfr atebion diddorol iawn i'r cwestiynau hyn.

Dydw i ddim yn barod i drafod pethau ar yr un telerau â'r gwleidyddion a'r economegwyr. Ond yr oedd gen i awydd creu rhyw batrwm yn yr anhrefn. Mae'r gymdeithas wedi chwalu, wedi ei hatomeiddio, ac mae pob math o syniadau amrywiol yn troi yn y gwagle a grëwyd. Fy nhasg i oedd dewis y ffrydiau mwyaf grymus ym mywydau teimladol pobl, gweld i ba gyfeiriad yr oeddent yn mynd, ceisio rhoi siâp ar bethau a'u troi yn gelfyddyd. Roeddwn i am i bawb gael datgan ei (g)wirionedd ei hun, a hynny'n groyw. Rwy'n gadael i bawb siarad, y llofrudd a'r dioddefwr. Mae hwnnw’n gwestiwn sydd wedi fy mhoeni erioed: paham y mae'r llofruddion yn tewi? Beth am osod y drwg yn ogystal â'r da yn y glorian?

Wyt ti'n credu felly bod ein cymdeithas wedi ei pholareiddio rhwng y rhai a fu'n lladd a'r rhai a ddioddefodd?

Yn naturiol, mae'r rhaniadau yn fwy cymhleth na hynny. Yn sicr, mae'r ffaith ein bod ni wedi ein magu rhwng y llofruddion a'r dioddefwyr yn destun trafod, ac ein bod wedi deall mor gymysg yw'r cwbl ac mor beryglus. Roedd y newid byd yn gofyn inni fod yn gwbl agored ynglŷn â’r gorffennol a dechrau edrych ar y byd mewn ffordd wahanol, ond ddigwyddodd hynny ddim. Mae hi fel petai'r llechen wedi ei golchi'n lân, ein bod ni'n cychwyn o ddim, ac yn creu rhyw frasluniau breuddwydiol o'r dyfodol. O’r blaen byddem yn gwneud hynny yn y gegin gefn; bellach, yn gyhoeddus ar sgwariau'r dref y mae’n digwydd. A dechreuodd yr ‘hogia’ caled’ weithredu, gan rannu'r wlad anferth hon: ei rhannu a'i thorri'n ddarnau a'i chwalu.

Dywed rhywun yn dy lyfr: 'Bu farw sosialaeth o flaen ein llygaid; ac fe gyrhaeddodd yr hogia’ caled.’ Dyma wrthgyferbyniad trawiadol: ar y naill law, y bechgyn Sofietaidd a anfonwyd i farw yn Afghanistan yn dychwelyd yn eu heirch sinc; ac wedyn, yn eu lle, hogia’ caled didrugaredd y nawdegau yn barod i ladd am arian. Rwyf am ofyn yr un cwestiwn i ti ag a ofynnir gan rywun yn dy lyfr: ‘Pa angen sôn am sosialaeth? Ac wrth bwy? Onid yw pawb yn gallu tystio i'r hyn oedd?'

Treuliodd rhai y rhan fwyaf o'u hoes yn y wlad Sofietaidd honno; mae eraill yn cofio rhywfaint o'u plentyndod ac wedi dysgu amdani — naill ai gan bobl oedd yn fyw yng nghyfnod sosialaeth, neu o werslyfrau a ysgrifennwyd yn y cyfnod hwnnw. Mae sosialaeth yn dal yn rhan ohonom, mae hi o'n cwmpas ymhobman, rydym wedi ein trwytho ynddi.

Yn ôl yr arolygon barn, mae canran uchel o bobl ifainc, gan gynnwys y rhai a anwyd ar ôl chwalu'r Undeb Sofietaidd, yn difaru ei bod hi wedi mynd. Os cofiaf yn iawn, dyma sut y mynegodd Marietta Tsiwdacofa y peth, mewn ffordd reit greulon: fel hyn y bydd hi nes bod y neiniau Sofietaidd yn marw ac yn rhoi’r gorau i adrodd eu hanesion wrth yr wyrion a'r wyresau.

Fyddwn i ddim mor feirniadol o'r neiniau, dydyn nhw ddim mor bell ohoni. Collwyd llawer a oedd yn werthfawr: urddas yn fwy na dim, urddas y dyn cyffredin. Dydw i ddim yn un sy'n meddwl bod rhaid gosod popeth yn ei ôl fel yr oedd, ond fel llawer o'r lleisiau yn fy llyfr, rwy'n anfodlon â'r hyn ddigwyddodd. Ni wireddwyd ein breuddwydion.

Beth oedd dy fwriad wrth ddyfeisio dy gyfres o lyfrau am iwtopia? Sut ddewisaist ti’r profiadau pwysig a phoenus i ganolbwyntio arnynt? Sut luniaist ti'r ffurf lenyddol arbennig hon a chreu'r fframwaith mewnol; a dewis y gyffes unigol o gôr anferth lleisiau'r dorf?

Bûm wrthi am ddeng mlynedd ar hugain yn llunio rhyw fath o wyddoniadur y cyfnod 'coch'. Dechreuodd y cwbl pan gyfarfyddais ag Ales Adamofits [awdur o Felarws]. Bûm yn chwilio'n hir am ffurf a fyddai'n caniatáu imi ysgrifennu'r hyn roedd fy nghlustiau yn ei glywed; a phan ddarllenais ei lyfr, Rwy'n Hanu o Bentre'r Fflamau, deallais fod hynny'n bosib. Roeddwn wedi ei chael hi'n anodd credu erioed bod y gwir i'w ganfod ym meddwl a chalon un unigolyn. Roedd, yn hytrach, wedi ei dorri'n fân a'i wasgaru. Sut oedd ei gasglu ynghyd? Dyma fi'n deall bellach bod modd gwneud, a dyna sut y ganwyd fy llyfr Nid Wyneb Benywaidd sydd gan Ryfel. Bu rhyfel yn ganolog i'n bywydau, ac eto, yn wythdegau'r ganrif ddiwethaf, chafodd fy llyfr mo'i gyhoeddi. Dim ond canmol yr oeddech yn cael gwneud wrth ysgrifennu am y rhyfel — canmol pawb, o'r cadfridogion hyd at y milwyr cyffredin, a chanmol popeth a wnaethant. Roedd unrhyw driniaeth wahanol yn dabŵ. Fe wyddost cystal â fi sut, yn araf bach, y daeth hi'n bosib torri trwy'r wal a cheisio defnyddio ieithwedd wahanol i adrodd hanes y rhyfel. Ond er inni lwyddo i raddau, mae'r un hen ystrydebau ofnadwy i'w clywed heddiw, ac nid gan wleidyddion pwysig yn unig. Mae'r holl gyhuddiadau rhwng carfanau, a'r holl lurgunio ffeithiau, yn digwydd oherwydd bod ar y gymdeithas ofn dysgu'r gwir amdani hi ei hun, ofn y gwaith o dreulio profiad yn fewnol. Petaem ni’n ymwybodol ac yn gwybod yn union yr hyn a ddisgwyliwn gan y dyfodol; petaem ni wir am greu cymdeithas newydd a chamu 'mlaen i'r byd agored, fyddai dim cymaint o ofn ein gorffennol arnom.

A phwy fydd yn ein disgwyl yn y byd agored hwnnw? O ran Ewrop, mae rhywun yn teimlo ei bod yn dechrau cau i mewn arni hi’i hun.

Does neb yn aros am neb. Ond mae yna’r fath beth â gofod deallusol a gwleidyddol cyffredin; rhyw resymeg sy'n gyrru datblygiad, cyfeiriad ar y cyd (ar wahân i'r byd Islamaidd, y mae'n anodd sôn amdano) y dylem ymdrechu i’w gyrraedd, er mwyn cyflawni'n potensial, yr hyn sy'n bosib i ni. Bydd math newydd o bobl yn codi, a fydd yn teithio ac yn gweld y byd, pobl fwy amlieithog, mwy symudol. Fe allen nhw adeiladu'r cyfnod newydd. Ond does dim sicrwydd y bydd hyn yn digwydd. Dyw'r peirianwaith ddim yn bodoli i alluogi unigolion i godi yn y gymdeithas. Meddyliwch am effaith deg neu bymtheg mlynedd ym mywyd deallusol unigolyn pan nad oes dim ganddo i'w wneud, dim angen amdano, ac yntau wedi ei barlysu a heb ddatblygu yn ei faes arbenigol. Pan ddychwelais i Minsc ar ôl deng mlynedd, synnais gymaint o'm ffrindiau oedd wedi marw. Buont farw oherwydd bod amser wedi ei ddwyn oddi arnynt. Roeddent wedi eu piclo a'u cadw yn y gorffennol. I gychwyn, dygwyd amser yn ystyr cyffredinol y gair oddi arnynt. Yn nes ymlaen, dygwyd eu hamser personol.

Wyt ti'n cofio hen wraig yn dweud wrthyt: daeth sosialaeth i ben, a ni sydd ar ôl. Yn fwy na hynny, aeth pobl a arferai fod yn bwysig yn y gymdeithas i fod yn rhai di-alw amdanynt.

Yn naturiol. Wedyn, yn lle bod yn llawn egni, roedd pobl yn suddo i ryw wacter. Mae ail ran fy llyfr yn dwyn y teitl 'Atyniad Gwacter'. Bu ymdrech i'n hargyhoeddi mai'r peth pwysicaf mewn bywyd oedd eiddo a steil. Ond diolch byth, yr oedd llawer wedi deall, yn fuan iawn, mai uchelgais wag oedd hyn, ac mai dim ond gwacter oedd y tu ôl iddi.

Mae angen llenwi gwacter â rhywbeth.

Mae pawb yn galw ar ryw syniad o'r genedl i lenwi'r gwagle, ond caiff ei lenwi yn hytrach gan bob math o sbwriel. Mae gan yr unigolyn bellach bosibiliadau newydd. Fel y mae un o'm cymeriadau’n cydnabod: pan gwympodd y llen haearn roeddem yn disgwyl i bawb ruthro i ddarllen Solsienitsin, ond yn lle hynny brysio wnaeth pobl i brofi pob math o fwydydd na chawsant gyfle i'w bwyta o'r blaen, a theithio i lefydd na welsant cyn hynny heblaw ar y teledu.

Wrth fynd o gwmpas y wlad, mae'n rhaid dy fod wedi cwrdd â phobl na wnaethant ddioddef, pobl lwyddiannus, weithredol, yn gwneud yn dda. Mae digon ohonynt yn y genhedlaeth ganol yn ogystal ag ymhlith yr ifanc. Wnest ti ddim meddwl cynnwys eu hanes nhw yn y llyfr?

Byddai hynny wedi arwain at newyddiaduraeth bur, a chynnig role models cadarnhaol. Roeddwn i am ddangos yn y llyfr beth oedd y tu ôl i hynny i gyd, a mynd i’r afael â’r pynciau mwyaf poenus.

Dywedaist fwy nag unwaith mai dioddefaint a thrallod sydd yn ein nodweddu fel pobl. Ydy hi'n bosib na fydd dim yn newid tra ein bod yn ystyried ein hunain fel yna?

Wn i ddim sut fydd hi. Mae i ddioddefaint a thrallod hanes hir a gwreiddiau dyfnion yn niwylliant Rwsia. Dos i gefn gwlad a mynd i unrhyw fwthyn. Beth glywi di? Hanesion am helynt ac adfyd.

Mae popeth yn dibynnu ar yr hyn a gynigir i bobl fel nod. Naill ai aberthu dy hun dros ryw achos fel yn y cyfnod a aeth heibio, neu fyw yn y foment a goroesi orau y gelli — dyna sut mae hi fan hyn. Ond byddwn i am gael nod mwy dynol, ac ystyried beth yw pwrpas dilyn llwybr penodol. Mae pethau'n llawer mwy cymhleth na bod yn optimist neu'n besimist. Does gennym ni ddim diwylliant o hapusrwydd, syniad o fywyd llawen, diwylliant o gariad. Bydd fy llyfr nesaf am gariad. Hanes cariad ym mywydau cannoedd o bobl. Ble mae'r storïau am gariad hapus gan ein hawduron Rwsieg? Mae popeth yn gorffen yn ddi-ddim neu â marwolaeth – yn anaml iawn â phriodas. Ond nid dyna’n profiad o fywyd ychwaith — beth felly all fod yn sail i lenyddiaeth neu sinema? Brwydr, dioddefaint, rhyfel; dyna’n profiad ni o fywyd a dyna a gofnodir yn ein celfyddyd.
 

Lafra Uchaf, Kiev


Does gen i ddim atebion hawdd i'r cwestiynau hyn. Rwy'n cael fy hun yn rhewi yn wyneb ein bywyd lluosog, aml-leisiol. Mae gen i deimlad nad yw pethau dan reolaeth. I ble fydd y llif yn ein cario? Mynegwyd hyn i'r dim gan Aferintsef [academydd enwog ym maes llenyddiaeth Rwsia] — buom yn adeiladu pont dros afon anwybodaeth, ac yna newidiwyd cwrs yr afon. Daeth hi'n amhosib rhagweld y dyfodol. Rydym ni yn fan hyn yn tin-droi ynghanol ein problemau ni, ac mae'r ddynoliaeth a'r byd yn gyffredinol wedi newid cymaint fel bod pawb yn syfrdan yn wyneb y lluosogrwydd o fywydau a agorodd yn sydyn o'n blaenau. Fy nhasg i oedd pennu’r cwestiynau.

Mae'n amlwg o'r llyfr diweddaraf bod pobl heddiw yn trafod pethau gwahanol mewn ffordd wahanol o gymharu â thrafodaethau ugain a deng mlynedd ar hugain yn ôl.

Maent yn siarad yn fwy agored am eu teimladau a'u syniad o'r byd o'u cwmpas, ac mae ganddynt afael ehangach ar yr hyn sydd wedi digwydd. Mae'r ffordd ganonaidd — y ffordd dderbyniol o adrodd y stori — wedi diflannu. Pan ysgrifennais Nid Wyneb Benywaidd sydd gan Ryfel dim ond un ffordd — y ffordd ganonaidd — oedd yna o ddisgrifio rhyfel. Erbyn llyfr Tsiernobil, roedd sefyllfa newydd sbon wedi codi a dim ffordd ganonaidd o'i disgrifio. Bu’n rhaid i bobl benderfynu drostyn nhw eu hunain beth i’w ddweud a sut i adrodd y stori. Roedd yr un peth yn wir wrth imi weithio ar y llyfr Amser Ail-law.

Gyda llaw, o ble daeth y syniad am amser yn y teitl, a pham?

Oherwydd bod y syniadau i gyd, y geiriau, popeth yn dod dros ysgwydd rhywun arall fel petai, yn perthyn i ddoe ac wedi treulio. Does neb yn gwybod sut y dylai pethau fod, beth fydd o ddefnydd i ni, ac mae pawb yn troi at yr hyn a oedd ganddynt unwaith, profiad o fywyd blaenorol. Am y tro, yn anffodus, amser ail-law sydd gennym. Ond rydym yn dechrau dod at ein coed a deall ein lle yn y byd. Does neb am fyw am byth ymysg yr adfeilion. Daw awydd adeiladu rhywbeth â'r darnau sydd ar ôl.

Ond dyma'r cwestiwn — adeiladu beth? A pham gwneud dewis arbennig? Mae cymeriad yn dy lyfr yn cyfeirio mewn rhyw ddeg o eiriau digon angharedig at sosej fawr fondigrybwyll. Er mwyn ei chael, mae pobl yn fodlon ffarwelio â syniadau ac, o ganlyniad, ffarwelio â'r wlad. Mae'r sosej fawr yn symbol o foethau cyfalafiaeth ac yn ddelwedd rymus sy'n mynegi awch difeddwl.

Roedd y profiad o fyw yn yr Undeb Sofietaidd yn brofiad gwahanol. Yn ôl Shalamof, dim ond yn y gwersylloedd llafur yr oedd profiad ohonynt o ddefnydd. Dyna'n sefyllfa ni yn union.

Mae cenedlaethau wedi dibynnu ar lenyddiaeth am gynhaliaeth — ar y clasuron Rwsiaidd. Mae hynny'n mynd ar goll. Nid yw'n gweithio bellach ... Roeddem yn arfer mesur lefel diwylliant unigolyn yn ôl ehangder ei ddarllen yn bennaf. Mae hynny'n dod i ben ac mae'n newid sylfaenol. Beth yw dy farn di — oes modd ystyried unigolyn yn ddiwylliedig os nad yw'n darllen?

Yn ein cylchoedd ni, byddai pobl yn ateb 'Na'. Ond gall y syniad o'r hyn sy'n nodweddu lefel uchel o ddiwylliant amrywio'n fawr hefyd. Rwy'n cofio digwyddiad fel hyn ym Mosco: gydol y nos bu gŵr y tŷ, arbenigwr enwog yng ngwyddor y gofod, yn diddanu'r cwmni gyda'i sgwrs, a oedd yn llawn cyfeiriadau at glasuron llenyddiaeth Rwsia. Gallai adrodd twr o gerddi ar ei gof. Dyma un o'r gwesteion — cyd-weithiwr iddo o'r Gorllewin a oedd hefyd yn fyd-enwog — yn gofyn iddo: aethoch chi ati'n fwriadol i ddysgu'r holl gerddi yna? Dyna a’m tarodd yn y Gorllewin — doedd yna ddim disgwyl y byddai gan rywun yr un ystod ddyneiddiol o gyfeiriadau. Mae'r miniogrwydd proffesiynol yno — heb yr ehangder.

Mae'n bosib mai'r awduron eu hunain sydd ar fai, ers y nawdegau, am roi’r gorau i drin pynciau sydd yn cyffroi pobl. Wyt ti wedi darllen rhywbeth yn ddiweddar a wnaeth iti feddwl 'O, alla' i fyth dderbyn hynny'?

Wel, darllenais lawer ar waith [y bardd] Olga Sedacofa. Mewn cyfnod tywyll fel ein cyfnod ni mae ei phresenoldeb fel cannwyll. Mae mawr angen cenhadon o'r fath.

Cyfnod tywyll, meddet ti. Yn yr wythdegau, cyfnod pieriestroica, dyma broffwydodd Lichatsiof [ysgolhaig enwog ym maes llên gynnar Rwsia]: cyfnod ofnadwy totalitariaeth oedd yr ugeinfed ganrif ond roedd hefyd yn cyfnod o ddarganfyddiadau trawsnewidiol yn y gwyddorau. Canrif diwylliant fydd y ganrif newydd.

Rwy'n amau a ydym wedi cyrraedd y fan honno, mwy nac a ddysgodd yr ugeinfed ganrif gan y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Rhywbeth gwahanol fydd hi.

Mae'r cyfuniad dogfennol/creadigol a ddyfeisiaist i ti dy hun wedi troi, erbyn heddiw, yn ffasiwn. Mae'r nofel ddogfennol yn bodoli fel ffurf; ceir hunangofiannau dan ffugenwau, neu mae awdur yn defnyddio ei enw go iawn i ysgrifennu rhywbeth sydd fel petai'n hunangofiant, yn efelychu hunangofiant fel y mae mwgwd yn cuddio'r wyneb, ac yn y gwaith hwnnw gall personau go iawn gymysgu gyda rhai ffuglennol, neu fe all cymeriadau ffuglennol drafod hanes cymeriadau yn y byd go iawn ...

Ymdrechion i gyd i nesáu at y realiti.

Yn sicr. Ond mewn cyd-destun lle mae pobl yn fwy parod i ymddiried mewn dogfennau a ffeithiau nag mewn unrhyw ddehongliad ohonynt ...

Mae'n debyg bod mwy o ddirgelwch a mwy o bethau annisgwyl ym myd ffeithiau a dogfennau nag yr ymddengys. Roeddem yn arfer meddwl am ddogfen fel rhywbeth syml, unionsyth a noeth. Ond mae'n adlewyrchu cyfnod a phersonoliaeth llawn cymaint â phethau eraill. Heddiw estynnwyd ffiniau'r dogfennol. Gynt roeddem yn cadw'r diffiniad yn gul iawn. Roedd pethau nad oedd modd eu cyffwrdd — rhaid oedd cadw draw. Roeddwn i bod amser yn synnu nad oedd modd ysgrifennu am y pethau mwyaf personol a mewnol ym mywyd pobl — dim ond i rywun wneud hynny â gofal mawr.

Sfetlana, pa wahaniaeth oedd yna rhwng y ffordd y derbyniwyd dy waith fan hyn a’i dderbyniad yn y Gorllewin?

Mae 125 o gyfrolau o'm gwaith bellach wedi ymddangos mewn gwahanol ieithoedd. Mae diddordeb anferthol yn ein gwlad ac yn y syniad sydd wrth wraidd y llyfr, ac yn amlwg llwyddais i ddarganfod ffurf i'w fynegi. Nid fy mod i wedi creu ryw ‘siambr y dychrynfeydd’, fel yr awgrymodd rhywun. Darllenwch am yr hyn a ddigwyddodd yn Rwanda, er enghraifft — mae llu o lyfrau ar y farchnad yn y Gorllewin sy'n disgrifio erchyllterau'r byd cyfoes. O'u cymharu â’r rheiny, mae fy llyfrau i fel straeon plant. Mae yna un rheswm arall pam y cafodd fy llyfrau groeso yn syth. Roedd fy nghyfrol Yr Hogia' Sinc, er enghraifft, sydd yn sôn am y milwyr a aeth i Afghanistan, yn deffro atgof yn Ffrainc o'u rhyfel hwy yn Algeria. Ac fe argraffwyd tri neu bedwar can mil o gopïau o'r gyfrol Gweddi Tsiernobil yn Ffrainc a'i chyflwyno ddegau o weithiau ar lwyfan. Roedd hynny nid yn unig yn gysylltiedig â'r ffaith bod yna lawer o atomfeydd yn Ffrainc — ond bod rhywbeth yn ein byd-olwg ni a oedd yn ddealladwy ac yn agos atynt: ein dealltwriaeth o gariad, a'r cariad hwnnw’n achosi i bobl aberthu'r hunan mewn amgylchiadau eithafol.

Ac yn Japan yn dilyn Fukushima?

Wedi Fukushima adargraffwyd Gweddi Tsiernobil. Mae atomfa ganddynt yn Japan ar ynys Hocaido o'r enw Tamara. Mi gyrhaeddais yr ynys adeg cyhoeddi fy llyfr am y tro cyntaf a gweld yr atomfa drwy'r ffenestr. Roedd hi mor hardd, fel rhyw wrthrych annaearol. Pan gyfarfyddais â rhai o'm darllenwyr a oedd yn gweithio yn yr atomfa, roeddent yn gwbl argyhoeddedig mai dim ond ymhlith y Rwsiaid anhrefnus y gallai damwain o'r fath ddigwydd. Byddai'n amhosib i ddim byd tebyg ddigwydd iddyn nhw am eu bod wedi rhagweld pob posibiliad. Ond dyma ddaeargryn yn digwydd yn sydyn a oedd yn gryfach na'r lefel gryfaf a ragwelwyd. Diwedd y stori. Dim ond sbwriel a oedd yn weddill o'r holl dechnoleg fodern. Wedi 11 Medi, dechreuodd yr Americanwyr ddarllen mwy ar Gweddi Tsiernobil, Yr Hogia' Sinc ac Amser Ail-law. Mae'n rhaid i ni i gyd ddechrau ystyried nad ydym yn feistri ar y byd hwn, fel y tybiwyd, a bod yna ddeddfau a grymoedd eraill ...

A pham na orffennaist ti'r llyfr am gariad y buost ti'n gweithio arno dros y blynyddoedd? Hebddo, onid yw'r gyfres am y bod Sofietaidd yn anghyflawn? Roedd yn gyfnod o awelon rhamantaidd a chariad gloyw hefyd, wedi’r cyfan ...

Na, mae'r gyfres honno ar ben. Mae'n cynnwys pum cyfrol: Nid Wyneb Benywaidd sydd gan Ryfel, Y Tystion Olaf, Yr Hogia' Sinc, Gweddi Tsiernobil ac Amser Ail-law. Dyna'r gyfres 'goch' yn ei chyfanrwydd. Y llyfrau am gariad a henaint a marwolaeth — llyfrau cwbl wahanol fydd y rheiny. Bydd yr awdur yn berson ychydig yn wahanol hefyd.

Sut un fydd hi?

Wn i ddim am y tro, ond gwahanol. Unigolyn y mae'r byd yn ei synnu fwy nag o'r blaen. Gynt roeddwn yn ymddiddori mewn syniadau cyffredinol a'r grymoedd sydd y tu hwnt i reolaeth dyn, megis rhyfel a Tsiernobil. Rwy'n ymddiddori heddiw, mwy na dim, yn yr hyn sy'n digwydd yng ngofod mewnol enaid yr unigolyn. Ymddengys i mi mai yn y fan honno y mae'r byd yn troi.

Bydd cyfrol Ned Thomas am y syniad o leiafrif ieithyddol yn hanes diweddar Ewrop yn ymddangos gyda Gwasg Prifysgol Cymru maes o law. 

Lluniau gan Simon Proffitt (detholiad o'i waith ffotograffig fan hyn):
- Clinig plant yn Pripyat, yr Wcráin
- Y deithwraig nad oes argyhoeddi arni, Kyiv
- Lafra Uchaf, Kyiv 

Mae’n debyg bod mwy o ddirgelwch a mwy o bethau annisgwyl ym myd ffeithiau a dogfennau nag yr ymddengys

Pynciau:

#Rhifyn 2
#Ned Thomas
#Gwobr Nobel
#Rwsia
#Comiwnyddiaeth
#Wcráin