Y Wasg

Gwneud pres

Cyhoeddi Rhifyn Haf 2022

O’r Pedwar Gwynt
29·07·2022

I'w ryddhau 30 Gorffennaf 2022

Gwneud pres, newid bywyd, a Chymru fydd

Mae Rhifyn Haf 2022 O’r Pedwar Gwynt yn mentro i ystafelloedd cefn y byd pres. Beth sydd i'w ddarganfod yno? Rheseidiau o ddynion ifanc mewn crysau gwyn a throwsusau duon, meddai Eluned Gramich, wedi iddi drefnu cyfarfod ymchwil efo rheolwr cronfa ragfantoli (hedge fund) yn Rio de Janeiro. Mae hi'n darganfod digonedd o bethau eraill yn ogystal, megis obsesiwn y buddsoddwyr hyn â'r cysyniad o 'athrylith'; y duedd i gysylltu arian â meysydd eraill a boblogir gan ddynion yn bennaf; a chwlt Warren Buffett, Elon Musk a dynion hynod gyfoethog eraill. Ond mae hi'n cofio hefyd mai prin wedi cyrraedd ei aeddfedrwydd mae’r byd buddsoddi modern – chwarter canrif yn ôl, doedd fawr o sôn am 'venture capitalism'.

Pres a phethau sgleiniog oedd byd Madame Bovary hefyd, yn nofel Flaubert o'r un enw. Mae gan Prys Morgan hanes teuluol i'w adrodd amdani. ‘Tybed,’ meddai, ‘pe bai fy mam wedi cytuno i ddod yn Madame Delamare, a fuasem wedi dewis dweud ein bod ni'n perthyn i “Madame Bovary”’?

Os ydi byd pres â llawer i'w wneud â statws a sut y cawn ein gweld gan eraill, mae hynny hefyd wrth galon ein profiad o heneiddio. Mae Sara Penrhyn Jones yn troi at waith Simone de Beauvoir, Germaine Greer a Lynne Segal wrth ystyried canlyniadau 'newid bywyd' neu'r 'climacteric', chwedl Greer, a sut mae heneiddio, os nad ydym yn ofalus, yn medru ein cyfyngu i'r hyn a fuom neu'r 'hyn ydym heddiw yn llygaid eraill', a hynny ar draul meddwl yn fwy agored am y dyfodol – fel petaem yn bodoli fel naratif yn y trydydd person yn unig, un sydd eisoes wedi ei adrodd. 

Fel rhan o'n cyfres o gyfraniadau sy'n ymdrin âg Wcráin, cyhoeddir yn y rhifyn hwn ysgrif bellach gan un o awduron amlycaf yr Wcreineg, sef Iwri Andrwchofits. Mae'n hel atgofion am ei ymweliadau â Charcif ac a'r hen dŷ awduron yno, ac yn ymhel â phresenoldeb hanes a thrais y gorffennol yn y presennol. 'Amgueddfa drasig, lle mae modd cyffwrdd popeth' ydi Charcif, meddai, 'Ond gwylier rhag yr hyn sy'n beryg o lynu yn eich dwylo.'

I nodi atgyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, rydym yn cyhoeddi cyfraniad Simon Brooks i'n colofn 'Gweld y gwynt'. Dadleua mai 'cam gwag yw troi Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 'Orsedd Cymru'. 

Yn ogystal, cyhoeddwn ragflas o nofel hirddisgwyliedig Wiliam Owen RobertsCymru Fydd, sydd i'w chyhoeddi yn hwyrach eleni gan wasg O'r Pedwar Gwynt ac i'w thrafod mewn cyfweliad arbennig rhwng yr awdur ac Elis Dafydd, yn y Babell Lên ar ddydd Llun, 1 Awst. Sut le sydd yng Nghymru yn 2090? Pwy fydd yn ffynnu? Pwy fydd yn rheoli?

Mae ardal yr Eisteddfod yn bresennol yn yr ysgrif 'Breuddwyd Americanaidd' hefyd. Ynddi, mae Heather Williams yn oedi yn Ystradmeurig ac yn darllen gwaith Ambrose Bebb gan ddarganfod disgrifiadau o goed Tregaron 'yn cuddio yn llyfrau taith Bebb am y cyfandir'  a sut y mae pob un o'i deithiau 'yn gorfod dechrau yn Nhregaron'.

Hefyd yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd opera newydd – 2117/Hedd Wyn – yn cael ei rhyddhau dan label Tŷ Cerdd. Mewn cyfweliad hir ar gyfer O'r Pedwar Gwynt am ei gyfraniad fel sgwennwr libreto'r opera hon, meddai Gruff Rhys: 'Gall eironi fynd â chelfyddyd i diroedd tramgwyddus sydd tu hwnt i furiau digalon y chwaethus.'

Braint ydi cael cyhoeddi Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams yn y rhifyn hwn, a drefnwyd gan y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd mewn partneriaeth ag O'r Pedwar Gwynt. Mae 'Nodau annaearoldeb' gan Llŷr Gwyn Lewis yn ymateb i erthygl a gyhoeddwyd yn ein rhifyn Gaeaf 2021 gan T Robin Chapman ac yn archwilio gwaith Guto Dafydd yng ngolau ymwneud T H Parry-Williams â'r unheimlich (Freud) gan gynnig ffordd wahanol o ymateb i ddifodiant diwylliannol:

Ers cyfnod T H Parry-Williams, onid oes nifer cynyddol ohonom wedi "dechrau simsanu braidd", a "rhyw ysictod" fel petai'n dod drosom? Wrth wynebu'r ysictod hwnnw, dichon fod gan y bardd cyfoes ddewis: gall alaru a marwnadu, fel y gwnaeth cynifer o feirdd yn ail hanner yr 20g. Neu, gall dderbyn a chofleidio'r hyn sydd wedi "drysu peth ar y plan", gan roi inni am ychydig y "clirder annaearol" hwnnw i weld y wlad o'n cwmpas fel y mae mewn gwirionedd, a chymryd hynny fel cam cyntaf i'n symbylu i ymegnïo ac ymbrysuro drachefn.

Ymysg yr erthyglau adolygu a’r adolygiadau byrion arferol, mae Elin Roberts yn mynd ati i ddadansoddi'r newidiadau gwleidyddol sydd ar droed yn America Ladin eleni. Mae hi'n olrhain esblygiad gwleidyddiaeth adain chwith yno ac yn darllen cyfrolau gan un o brif ohebyddion tramor yr 20g, Ryszard Kapuściński, ynghyd â ¡Populista! The Rise of Latin America's 21st Century Strongman gan ohebydd America Ladin y BBC, Will Grant. Ymhlith yr adolygiadau, ceir ymateb Angharad Penrhyn Jones i gyfrol am garchardai, byd a archwilir yn fanwl gan y ffotograffydd Donovan Wylie yn ei gyfrol The Maze a drafodir yn y golofn 'Darllen llun' y tro hwn. 

Yn adran y colofnau, rydym yn diolch i'r llyfrbryf Emyr Ll Gruffudd am gyffesu gyhyd ac yn croesawu colofn newydd sbon am y diwydiant llyfrau gan Casi Dylan, colofn sydd, wrth ei henw, yn talu gwrogaeth i'r hen gylchgrawn, Llais Llyfrau. Yn ei golofn 'Geiriau', meddai Dylan Foster Evans wrth drafod The Godfather a'r gair borgata, 'Mae cof gennyf glywed gan hanesydd o Gymro yr awgrym [...] mai astudio Maffia America yw un o’r ffyrdd gorau i ddeall meddylfryd uchelwyr Cymru’r Oesoedd Canol.' Yr argyfwng ynni a drafodir gan Mihangel Morgan yn 'Gwynt y Dwyrain' a'i benderfyniad i gael gwared â'i oergell. Mae 'Socrates ar y stryd' wedyn yn cofio stori deuluol am ei fam a'i dad yn cwrdd am y tro cyntaf, ar drên yn yr Almaen, ac yn trafod y gorgyffwrdd diwylliannol rhwng Cymru a'r Almaen, gan ddadlau bod y traddodiad idealaidd Almaenig yn agosach atom na'r empeiriaeth sy'n nodweddu'r traddiad athronyddol Seisnig. Yn y golofn 'Y cyfieithydd yn ei elfen' ymateb i ddeiseb a welodd yn gofyn i'r Wcráin fabwysiadu sgript Ladin yn hytrach na'r un Cirileg y mae Ned Thomas. A thra bo Siân Melangell Dafydd yn dyrchafu dant y llew, mae Derfel Clarke wedi rhoi gorau unwaith ac am byth i'w nofel ar y gweill, 'Hyll Ffyrnbyrth'. Mae'r Croesair hefyd yn dal i fynd a'r enillydd y tro hwn ydi Elwyn Owen, Bow Street. Llongyfarchion iddo! 

Mae O’r Pedwar Gwynt ar gael drwy’r post, ar-lein ar pedwargwynt.cymru, ac mewn siopau llyfrau ledled Cymru; pris un copi print: £4.95; pris tanysgrifiad blwyddyn: £15, neu £10 ar gyfer tanysgrifiad digidol yn unig. Gellir gweld rhestr gynnwys rhifyn Haf 2022 yn y fan hon.

Ceir casgliad o luniau yn y fan hon.

Am fwy o wybodaeth neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â cyfathrebu@pedwargwynt.cymru

Nodiadau i’r Golygydd

• Mae cylchgrawn llyfrau Cymru O’r Pedwar Gwynt yn gosod llenyddiaeth ynghanol materion cyfoes;

• Rydym o’r farn fod llenyddiaeth yn gallu dyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau mawr ein hoes;

• Rydym yn darllen, holi a herio gan gwestiynu syniadau am y Gymru gyfoes a’i lle yn y byd;

• Mae rhifynnau print yn ymddangos deirgwaith y flwyddyn – Haf, Gaeaf a Gwanwyn – a chyhoeddir deunydd newydd bob nos Fercher ar pedwargwynt.cymru;

• Sefydlwyd O’r Pedwar Gwynt yn Haf 2016. Cyhoeddir y cylchgrawn gan O’r Pedwar Gwynt Cyf. mewn partneriaeth ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru;

• Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am O’r Pedwar Gwynt i’w chael ar y wefan. Gellir dilyn y cylchgrawn ar Facebook, Twitter ac Instagram;

• Mae O’r Pedwar Gwynt yn aelod o rwydwaith Eurozine.

Pynciau:

#Rhifyn 19