Siân Melangell Dafydd
Daeth Mawrth, daeth dyddiau hirach. Ers wythnos dda, mae’n haf yn yr haul ac mae’n aeaf yn y cysgodion. Daw gwres mewn llonyddwch ond oerfel, bron, yn boenus o’r gwynt. Dechreua’r dyddiau mewn niwl, tan amser te deg, ond erbyn te prynhawn, mae’r byd…